2003 Rhif 503 (Cy.71)
Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) (Diwygio) 2003
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan adran 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 19981, a pharagraff 9 o Atodlen 1 a pharagraffau 1(4) a 4 o Atodlen 2 iddi, ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru2, ac ar ôl ymgynghori â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn unol ag adran 42(9) o'r Ddeddf honno, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi a chychwyn
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) (Diwygio) 2003 a deuant i rym ar 31 Mawrth 2003.
2
Caiff Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 20013 eu diwygio fel a ganlyn.
3
Caiff rheoliad 2 ei ddiwygio drwy—
a
fewnosod y diffiniad canlynol ar ôl y diffiniad o “achos disgyblu” ym mharagraff (1)—
mae i “asiant” (“agent”) yr ystyr a roddir gan adran 15A o Ddeddf 19984;
b
amnewid y geiriau “rheoliad 8” yn lle'r geiriau “rheoliadau 8 a 28” ym mharagraff (5).
4
Diwygir rheoliad 8 drwy—
a
mewnosod y geiriau “Yn ddarostyngedig i baragraff (1A)” ar ddechrau paragraff (1);
b
fewnosod y paragraff canlynol ar ôl paragraff (1):
1A
Rhaid i Bwyllgor sy'n delio ag achos yn erbyn person sy'n aelod o'r Cyngor gynnwys un neu fwy aelod lleyg ac un neu fwy aelod sy'n athro neu'n athrawes gofrestredig, ond ni ddylai gynnwys aelod o'r Cyngor.
c
mewnosod y geiriau “Yn ddarostyngedig i baragraff (3A)” ar ddechrau paragraff (3); a
ch
mewnosod y paragraff canlynol ar ôl paragraff (3):
3A
Y cworwm ar gyfer cyfarfod o Bwyllgor sy'n delio ag achos yn erbyn person sy'n aelod o'r Cyngor fydd tri aelod, gan gynnwys un aelod lleyg ac un aelod sy'n athro neu'n athrawes gofrestredig.
5
Diwygir rheoliad 9 drwy—
a
amnewid y paragraff canlynol yn lle paragraff (1)(b)—
b
bod y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol yn dymuno ystyried yr achos gyda'r bwriad o arfer ei bwerau o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 20025—
i
ar y seiliau bod person yn anaddas i weithio â phlant, neu
ii
ar seiliau sy'n ymwneud â chamymddygiad neu iechyd person,
oherwydd bod y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol yn ystyried bod yr achos yn ymwneud â diogelwch a lles person dan 18 oed.
b
amnewid y geiriau “rheoliad 5 neu 7 o Reoliadau Addysg (Cyflenwi Gwybodaeth) (Cymru) 20036” yn lle'r geiriau “rheoliad 28” ym mharagraff (2) (b).
6
Diwygir Rheoliad 18 drwy—
a
amnewid y paragraff canlynol yn lle paragraff (3)—
3
Rhaid i orchymyn atal, yn ychwanegol at yr eitemau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1), bennu—
a
unrhyw amodau y dylai'r athro neu'r athrawes gydymffurfio â hwy cyn y gall fod yn gymwys unwaith eto ar gyfer cofrestru; a
b
y cyfnod (nad yw'n fwy na dwy flynedd) pan ddaw'r athro neu'r athrawes unwaith eto yn gymwys ar gyfer cofrestru ar ei ddiwedd (yn ddarostyngedig i gydymffurfio ag unrhyw amodau)
b
ym mharagraff (6) hepgor yr “a” ar ddiwedd is-baragraff (a)(v) a mewnosod y canlynol ar ei ôl—
va
os gorchymyn atal sy'n pennu amodau yw'r gorchymyn, esboniad o hawl y person i wneud cais am amrywio neu ddiddymu amod a bennwyd yn y gorchymyn a'r dull ar gyfer gwneud cais o'r fath, a
c
mewnosod ym mharagraff (6)(b) ar ôl y geiriau “gyflogwr presennol neu ddiwethaf” y geiriau “a, lle bo hynny'n berthnasol, asiant”.
7
Ar ôl rheoliad 21 mewnosodir y rheoliad canlynol—
Cais i amrywio neu neilltuo amod mewn gorchymyn atal21A
1
Gall person y mae gorchymyn atal wedi'i wneud mewn perthynas ag ef wneud cais i'r Cyngor i amrywio neu ddiddymu unrhyw amod a bennir yn y gorchymyn.
2
Rhaid i gais o dan baragraff (1) gael ei wneud yn ysgrifenedig a phennu ar ba sail y mae'r person yn gofyn amrywio neu ddiddymu unrhyw amod a bennir yn y gorchymyn, a chyda'r cais rhaid anfon pob dogfen y dibynnir arni i ategu'r cais.
3
Os cafodd gorchymyn atal y gwneir cais mewn perthynas ag ef o dan baragraff (1) ei wneud gan Bwyllgor Ymddygiad Proffesiynol, rhaid i'r cais gael ei benderfynu gan Bwyllgor Ymddygiad Proffesiynol arall y mae'n rhaid iddo beidio â chynnwys fel aelod unrhyw berson a fu'n aelod o'r Pwyllgor a wnaeth y gorchymyn y cwynir yn ei erbyn.
4
Os cafodd gorchymyn atal y gwneir cais mewn perthynas ag ef o dan baragraff (1) ei wneud gan Bwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol, rhaid i'r cais gael ei benderfynu gan Bwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol arall y mae'n rhaid iddo beidio â chynnwys fel aelod unrhyw berson a fu'n aelod o'r Pwyllgor a wnaeth y gorchymyn y cwynir yn ei erbyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19987
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)