Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym nifer o ddarpariaethau Deddf Safonau Gofal 2000.

Mae rhai o'r darpariaethau hyn, a ddygir i rym ar 1 Mehefin 2003, yn ei gwneud yn ofynnol i Gyngor Gofal Cymru, mewn perthynas â Chymru, gadw cofrestr o weithwyr cymdeithasol. Yn ychwanegol, dygir darpariaethau eraill i rym ar ddyddiad cynharach, 1 Ebrill 2003, er mwyn caniatáu i geisiadau i gofrestru fel gweithwyr cymdeithasol gael eu gwneud i'r Cyngor Gofal o'r dyddiad hwnnw ymlaen.

Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn dwyn i rym ar 30 Ebrill 2003 newidiadau penodol i Ddeddf Fabwysiadu (Agweddau Rhyngwladol) 1999 o ganlyniad i weithredu ar y dyddiad hwnnw y darpariaethau yn Rhan II o Ddeddf 2000 mewn perthynas ag asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol.