Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2003
Enwi, cymhwyso, cychwyn a dod i ben1.
Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2003; mae'n gymwys mewn perthynas â Chymru, yn dod i rym ar 4 Mawrth 2003 a bydd ei effaith yn dod i ben ar 1 Awst 2003.
Dehongli2.
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “anifeiliaid” (“animals”) yw gwartheg (ond heb gynnwys buail a iacod), ceirw, geifr, defaid a moch;
mae i “ardal i anifeiliaid” (“animal area”) yr ystyr a roddir iddo yn erthygl 4(3)(c);
ystyr “crynhoad anifeiliaid” (“animal gathering”) yw achlysur pan gaiff anifeiliaid eu crynhoi mewn un lle sef—
(a)
gwerthiant,
(b)
sioe neu arddangosfa,
(c)
llwyth o anifeiliaid i'w traddodi ymlaen i'w cigydda o fewn Prydain Fawr, neu
(d)
llwyth o anifeiliaid i'w traddodi ymlaen o fewn Prydain Fawr i'w pesgi neu i'w gorffen,
ac mae'n cynnwys derbyn neu gadw'r anifeiliaid hynny dros dro;
mae “cyfarpar” (“equipment”) yn cynnwys llociau a chlwydi; ac
Eithriadau3.
Nid yw darpariaethau'r Gorchymyn hwn yn gymwys os—
(a)
yr un person sy'n berchen ar yr holl anifeiliaid mewn crynhoad anifeiliaid ac os yr un ceidwad sydd ganddynt, a
(b)
bod yr anifeiliaid i'w crynhoi ar safle y mae perchennog yr anifeiliaid yn berchen arno neu y mae'n ei feddiannu.
Defnyddio safle ar gyfer crynoadau anifeiliaid4.
(1)
Mae gwaharddiad ar ddefnyddio safle gan unrhyw berson ar gyfer crynhoi anifeiliaid arno onid yw'r safle hwnnw wedi'i drwyddedu at y diben hwnnw gan arolygydd milfeddygol.
(2)
Rhaid i drwydded o dan yr erthygl hon—
(a)
bod yn ysgrifenedig,
(b)
bod yn un y gellir ei diwygio, ei hatal dros dro, neu ei dirymu drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan arolygydd milfeddygol, a
(c)
bod yn ddarostyngedig i'r cyfryw amodau ag y barna'r arolygydd milfeddygol fod eu hangen i atal cyflwyno clefyd i'r safle trwyddedig neu i atal lledaenu clefyd o fewn y safle trwyddedig neu'r tu allan iddo.
(3)
Rhaid i drwydded bennu—
(a)
enw'r trwyddedai,
(b)
y safle lle y caniateir crynhoi anifeiliaid, ac
(c)
yr ardal y caniateir i'r anifeiliaid fynd arni (“yr ardal i anifeiliaid”).
Cyfyngiad o 27 o ddiwrnodau ar grynhoi anifeiliaid mewn un lle5.
Mae gwaharddiad ar bob crynhoad anifeiliaid ar safle lle y cafodd anifeiliaid eu cadw a hynny hyd nes bydd 27 o ddiwrnodau wedi mynd heibio ers y diwrnod—
(a)
y gadawodd yr anifail olaf y safle hwnnw, a
(b)
ar ôl i'r anifail olaf adael y safle, pan fydd yr holl gyfarpar a ddefnyddiwyd gan yr anifeiliaid wedi ei lanhau fel nad oes unrhyw arwydd weledol ei fod wedi'i halogi.
Esemptiad i'r cyfnod cyfyngiad o 27 o ddiwrnodau ar gyfer safle ag ardal i anifeiliaid sydd wedi'i phalmantu6.
(1)
Nid yw'r cyfyngiadau yn erthygl 5 yn gymwys os—
(a)
oes ar y safle ardal i anifeiliaid ac iddi arwyneb o sement, concrid, asffalt neu ddeunydd caled anhydrin arall y gellir ei lanhau a'i ddiheintio'n effeithiol, a
(b)
os yw'r ardal i anifeiliaid wedi'i glanhau a'i diheintio, a bod unrhyw ddeunydd gwastraff ar yr ardal i'r anifeiliaid wedi cael ei symud a'i waredu, yn unol â'r erthygl hon.
(2)
O ran y gwaith glanhau a diheintio—
(a)
rhaid peidio â chychwyn arno hyd nes bydd yr holl anifeiliaid wedi'u symud o'r rhan o'r ardal i anifeiliaid a lanheir ac a ddiheintir, a
(b)
rhaid ei orffen ar ôl i'r anifail olaf adael y safle trwyddedig.
(3)
Rhaid gwaredu o'r ardal i anifeiliaid yr holl borthiant y daeth yr anifeiliaid i gyffyrddiad ag ef, pob sarn (llaesodr), yr holl garthion, pob deunydd arall sy'n tarddu o anifeiliaid a'r holl halogion eraill —
(a)
a'u distrywio,
(b)
eu trin fel nad oes perygl o drosglwyddo clefyd, neu
(c)
eu gwaredu fel nad yw anifeiliaid yn gallu mynd atynt.
(4)
Mae'n rhaid ysgubo neu grafu'n lân bob rhan o'r ardal i anifeiliaid (yn cynnwys unrhyw gyfarpar), a'i glanhau drwy olchi a'i diheintio â diheintydd a gymeradwywyd.
(5)
Yn dilyn y tro olaf y cafodd yr ardal i anifeiliaid ei glanhau a'i diheintio yn unol â'r erthygl hon, os bydd yn cael ei baeddu â charthion anifeiliaid neu ddeunydd arall sy'n deillio o anifeiliaid, yna mae'n rhaid glanhau a diheintio'r ardal i anifeiliaid neu'r rhannau hynny ohoni sydd wedi'u baeddu yn y modd hwn, a rhaid gwaredu unrhyw ddeunydd gwastraff, yn unol â'r erthygl hon, cyn crynhoi anifeiliaid yno.
Y dyletswyddau sydd ar bersonau sy'n bresennol mewn crynhoad anifeiliaid7.
Pan gaiff anifeiliaid eu crynhoi mewn un lle (ac eithrio at ddiben sioe neu arddangosfa) mae darpariaethau'r Atodlen (gofynion mewn cysylltiad â chrynhoad anifeiliaid) yn effeithiol.
Cyfyngiadau yn sgil crynhoad anifeiliaid8.
(1)
Mae darpariaethau'r erthygl hon yn gymwys unwaith y bydd yr anifail olaf mewn crynhoad anifeiliaid wedi gadael y safle trwyddedig.
(2)
Ni chaiff unrhyw berson ganiatáu i anifeiliaid fynd ar y safle trwyddedig hyd nes bydd pob cyfarpar y daeth yr anifeiliaid i gyffyrddiad ag ef wedi'i lanhau fel nad oes arno arwyddion gweledol ei fod wedi ei halogi.
(3)
Ni chaiff unrhyw berson symud o'r safle trwyddedig unrhyw gyfarpar y daeth anifeiliaid mewn crynhoad anifeiliaid i gyffyrddiad ag ef—
(a)
oni chaiff y cyfarpar ei lanhau fel nad oes arno arwyddion gweledol ei fod wedi ei halogi a bod cyfnod o 27 o ddiwrnodau wedi mynd heibio ers i'r anifail olaf mewn crynhoad anifeiliaid adael y safle trwyddedig, neu
(b)
oni chafodd y cyfarpar ei ysgubo a'i grafu'n lân, ei lanhau drwy olchi a'i ddiheintio â diheintydd a gymeradwywyd.
Gorchymyn Marchnadoedd, Gwerthiannau a Llociau 19259.
Gorfodi10.
Caiff y Gorchymyn hwn ei orfodi gan yr awdurdod lleol neu'r Ysgrifennydd Gwladol.
Dirymu11.
Dirymir y canlynol—
(a)
(b)
(c)
(ch)
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
YR ATODLENGOFYNION MEWN PERTHYNAS Å CHRYNHOAD ANIFEILIAID
Dyletswyddau trwyddedai
1.
(1)
Rhaid i'r trwyddedai sicrhau bod unrhyw berson sy'n mynd ar y safle trwyddedig yn cael gwybod bod y safle'n drwyddedig o dan y Gorchymyn hwn, pa un ai trwy gyfrwng system o hysbysiadau y gwneir hynny neu mewn rhyw ffordd arall.
(2)
Rhaid i'r trwyddedai ddarparu baddonau traed ac ynddynt ddiheintydd wedi'i gymeradwyo ar y ffordd allan o'r ardal i anifeiliaid ac mewn unrhyw fae llwytho a dadlwytho, a darparu cyfleusterau ar y safle ar gyfer newid, golchi a diheintio dillad a gwaredu dillad y gellir eu taflu.
(3)
Mae'n rhaid i'r trwyddedai—
(a)
sicrhau mai yn yr ardal i anifeiliaid y caiff yr anifeiliaid eu dadlwytho a'u hail-lwytho, a
(b)
sicrhau, i'r graddau y mae hynny'n rhesymol ymarferol, nad yw anifeiliaid yn gadael yr ardal i anifeiliaid ac eithrio ar gerbyd.
Y dyletswyddau sydd ar bersonau sy'n bresennol mewn crynhoad anifeiliaid
2.
(1)
Ni chaiff unrhyw berson fynd ar safle trwyddedig yn gwisgo dillad allanol y mae arnynt arwyddion gweledol eu bod wedi'u halogi â charthion anifail neu halogion eraill sy'n deillio o anifeiliaid.
(2)
Os bydd person yn yr ardal i anifeiliaid yn gwisgo dillad allanol ac arnynt arwyddion gweledol eu bod wedi eu halogi gan garthion anifeiliaid neu halogion eraill sy'n deillio o anifeiliaid, rhaid iddo ar ei union ar ôl gadael yr ardal i anifeiliaid, lanhau halogi garw oddi ar ei ddillad (onid yw'r dillad i gael eu taflu) a naill ai—
(a)
eu diheintio; neu
(b)
newid ei ddillad am ddillad glân; neu
(c)
eu taflu; neu
(ch)
ymadael â'r safle trwyddedig.
(3)
Os bydd person y tu allan i'r ardal i anifeiliaid yn gwisgo dillad allanol ac arnynt arwyddion gweledol eu bod wedi eu halogi gan garthion anifeiliaid neu halogion eraill sy'n deillio o anifeiliaid, caiff arolygydd gyflwyno iddo hysbysiad yn rhoi iddo'r dewis o—
(a)
glanhau ei ddillad allanol,
(b)
newid ei ddillad am ddillad glân,
(c)
gwaredu dillad y gellir eu taflu, neu
(ch)
ymadael â'r safle trwyddedig a hynny ar ei union.
Esgidiau i'w gwisgo yn yr ardal i anifeiliaid
3.
Rhaid i unrhyw berson sy'n ymadael â'r ardal i anifeiliaid lanhau a diheintio ei esgidiau yn y baddon traed sydd wedi'i ddarparu.
Cerbydau
4.
Ni chaiff unrhyw berson ddod ag unrhyw gerbyd nac offer ar y safle trwyddedig na mynd â hwy oddi yno os ydynt wedi'u halogi â charthion anifeiliaid, ac eithrio carthion yr anifeiliaid sydd ar y cerbyd ar y pryd.
Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn cymryd lle Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002.
Nid yw'n gymwys yn yr amgylchiadau a nodir yn erthygl 3 (anifeiliaid a grynhoir ar safle y mae eu perchennog yn berchen arno).
Rhaid wrth drwydded ar gyfer crynoadau anifeiliaid (erthygl 4).
Mae'n pennu na chaiff crynhoad anifeiliaid ddigwydd ond ar ôl i 27 o ddiwrnodau fynd heibio ar ôl i'r olaf o'r anifeiliaid adael y safle hwnnw ac i'r cyfarpar ar y safle gael ei lanhau fel nad oes arno arwyddion gweledol ei fod wedi ei halogi (erthygl 5). Os ar safle wedi'i balmantu y crynhoir yr anifeiliaid mae erthygl 6 yn gwneud darpariaeth ar gyfer glanhau a diheintio'r safle hwnnw ac yn ei gwneud yn bosibl i grynhoad ddigwydd o fewn y terfyn amser arferol.
Mae'n gosod dyletswyddau ar y personau sy'n bresennol mewn crynhoad anifeiliaid (erthygl 7 a'r Atodlen).
Mae'n gosod cyfyngiadau yn sgil crynhoad anifeiliaid (erthygl 8).
Mae'n datgymhwyso dros dro ac yn cymryd lle Gorchymyn Marchnadoedd, Gwerthiannau a Llociau 1925 (OS 1925/1349) (erthygl 9).
Fe'i gorfodir gan yr awdurdod lleol neu'r Ysgrifennydd Gwladol (erthygl 10).
Mae peidio ag ufuddhau i'r Gorchymyn yn dramgwydd o dan adran 73 o'r Ddeddf Iechyd Anifeiliaid, ac mae'r gosb am hynny yn unol ag adran 75 o'r Ddeddf honno.
Bydd effaith y Gorchymyn hwn yr dod i ben ar 1 Awst 2003.
Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn.