Dehongli2.
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “anifeiliaid” (“animals”) yw gwartheg (ond heb gynnwys buail a iacod), ceirw, geifr, defaid a moch;
mae i “ardal i anifeiliaid” (“animal area”) yr ystyr a roddir iddo yn erthygl 4(3)(c);
ystyr “crynhoad anifeiliaid” (“animal gathering”) yw achlysur pan gaiff anifeiliaid eu crynhoi mewn un lle sef—
(a)
gwerthiant,
(b)
sioe neu arddangosfa,
(c)
llwyth o anifeiliaid i'w traddodi ymlaen i'w cigydda o fewn Prydain Fawr, neu
(d)
llwyth o anifeiliaid i'w traddodi ymlaen o fewn Prydain Fawr i'w pesgi neu i'w gorffen,
ac mae'n cynnwys derbyn neu gadw'r anifeiliaid hynny dros dro;
mae “cyfarpar” (“equipment”) yn cynnwys llociau a chlwydi; ac
ystyr “diheintydd a gymeradwywyd” (“approved disinfectant”) yw diheintydd a gymeradwywyd o dan Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 1978 2 sydd o'r cryfder sy'n ofynnol o dan y Gorchymyn hwnnw ar gyfer “Gorchmynion Cyffredinol”.