- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Wedi'u gwneud
26 Chwefror 2003
Yn dod i rym
1 Mawrth 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1), a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorthdaliadau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2003 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2003.
(2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Cymorthdaliadau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2001(2).
2.—(1) Diwygir y prif Reoliadau yn unol â darpariaethau canlynol y Rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 5(2), dilëir paragraff (ch).
(3) Yn rheoliad 8(1) yn lle “30 diwrnod” rhoddir “60 diwrnod”.
(4) Yn rheoliad 8(2), dilëir paragraff (ch).
(5) Yn rheoliad 8(3) yn lle “ym Mharc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ” rhoddir “yn y cyfeiriad a nodir yn y penderfyniad a roddir o dan reoliad 7(2) uchod”.
(6) Yn rheoliad 11(1) yn lle “30 diwrnod” rhoddir “60 diwrnod”.
(7) Yn rheoliad 11(3) yn lle “ym Mharc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ” rhoddir “yn y cyfeiriad a nodir yn y penderfyniad a roddir o dan reoliad 10(2) uchod”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Chwefror 2003
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Fe sefydlwyd cyfundrefn apelau amaethyddol ar gyfer Cymru gan Reoliadau Cymorthdaliadau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2001.
Mae'r Rheoliadau presennol yn diwygio'r Rheoliadau hynny drwy ddileu'r gofyniad i geiswyr roi rhesymau am eu cais am adolygiad yng nghamau 1 a 2 o'r broses apelau.
Maent hefyd yn estyn y cyfnod i wneud cais yng nghamau 2 a 3 o'r broses o 30 diwrnod i 60 diwrnod ac yn cynnwys elfen o hyblygrwydd i'r cyfeiriad ar gyfer anfon cais.
1972 p.68. Dynodwyd y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion adran 2(2) gan Orchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) 1999 (O.S. 1999/2788).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: