Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2003
Teitl, cychwyn a dehongli1.
(1)
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 13 Ionawr 2003.
(2)
Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at “yr Atodlen” yn gyfeiriad at yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
(3)
Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at offeryn y Gymuned Ewropeaidd yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw ac unrhyw ddiwygiad i'r cyfryw offeryn sydd mewn grym ar y dyddiad y gwneir y Gorchymyn hwn.
(4)
Yn y Gorchymyn hwn:
- ystyr “Rheoliad 2529/01 y Cyngor” (“Council Regulation 2529/01”) yw Rheoliad (EC) Rhif 2529/01 y Cyngor ar drefniadaeth gyffredin y farchnad mewn cig dafad a chig gafr3;
- ystyr “Rheoliad 1251/99 y Cyngor” (“Council Regulation 1251/99”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1251/99 y Cyngor sy'n sefydlu system gynnal i gynhyrchwyr cnydau âr penodol4;
- ystyr “Rheoliad 1254/99 y Cyngor” (“Council Regulation 1254/99”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1254/99 y Cyngor ar drefniadaeth gyffredin y farchnad mewn cig eidion a chig llo5.
Asesiad o gynhwysedd cynhyrchiol y tir2.
(1)
Mae paragraffau (2) a (3) o'r erthygl hon yn cael effaith at ddibenion asesu cynhwysedd cynhyrchiol uned o dir amaethyddol a leolir yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw'r uned honno'n uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn ystyr is-baragraff (1) o baragraff 3 o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.
(2)
Pan ellir defnyddio'r tir dan sylw, wrth ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd, ffrwythau, neu gynnyrch amrywiol, fel a grybwyllir yn unrhyw un o gofnodion 1 i 6 yng ngholofn 1 o'r Atodlen, yna—
(a)
yr uned a bennir yng ngholofn 2 o'r Atodlen gyferbyn â'r cofnod hwnnw fydd yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â'r defnydd hwnnw o dir, a
(b)
y swm a bennir yng ngholofn 3 o'r Atodlen gyferbyn â'r uned gynhyrchu honno fydd y swm a benderfynir am y cyfnod o 12 mis yn dechrau gyda 12 Medi 2002 fel yr incwm blynyddol net gan yr uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw.
(3)
Pan fydd tir y gellir ei ddefnyddio, wrth ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu incwm blynyddol net, yn wrthrych taliadau Tir Mynydd neu wedi'i ddynodi fel neilltir, fel a grybwyllir yng nghofnodion 7 ac 8 yng ngholofn 1 o'r Atodlen, yna—
(a)
yr uned a bennir yng ngholofn 2 o'r Atodlen gyferbyn â'r cofnod hwnnw fydd yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â'r defnydd hwnnw o'r tir, a
(b)
y swm a bennir yng ngholofn 3 o'r Atodlen gyferbyn â'r uned gynhyrchu honno fydd y swm a benderfynir am y cyfnod o 12 mis yn dechrau gyda 12 Medi 2001 fel yr incwm blynyddol net gan yr uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw.
(4)
Mae'r Atodlen yn cael effaith yn ddarostyngedig i'r Nodiadau i'r Atodlen.
Dirymu3.
Dirymir y Gorchmynion canynol:—
(a)
(b)
(c)
ATODLEN YRRHAGNODI UNEDAU CYNHYRCHU A PHENDERFYNU INCWM BLYNYDDOL NET
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 |
|---|---|---|
Defnydd ffermio | Uned gynhyrchu | Incwm blynyddol net gan uned gynhyrchu £ |
1. Da byw | ||
Buchod llaeth: | ||
Bridiau Ynysoedd y Sianel | buwch | 299 |
Bridiau eraill | buwch | 378 |
Buchod bridio cig eidion: | ||
Ar dir cymwys o dan Reoliadau Tir Mynydd (Cymru) 200110 | buwch | 19(1) |
Ar dir arall | buwch | 60(1) |
Gwartheg pesgi cig eidion (lled arddwys) | pen | 38(2) |
Buchod llaeth i lenwi bylchau | pen | 30(3) |
Mamogiaid: | ||
Ar dir cymwys o dan Reoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001 | mamog | 3(4) |
Ar dir arall | mamog | 9(5) |
Ŵ yn stôr (gan gynnwys wŷn benyw a werthir fel hesbinod blwydd) | pen | 0.75 |
Moch: | ||
Hychod a banwesi torrog | hwch neu fanwes | 75 |
Moch porc | pen | 1.50 |
Moch torri | pen | 2.85 |
Moch bacwn | pen | 4.20 |
Dofednod: | ||
Ieir dodwy | aderyn | 0.92 |
Brwyliaid | aderyn | 0.09 |
Cywennod ar ddodwy | aderyn | 0.20 |
Tyrcwn Nadolig | aderyn | 1.27 |
2. Cnydau âr fferm | ||
Haidd | hectar | 149(6) |
Ffa | hectar | 195(7) |
Had glaswellt | hectar | 110 |
Ceirch | hectar | 176(8) |
Rêp had olew | hectar | 76(9) |
Pys: | ||
Sych | hectar | 224(10) |
Dringo | hectar | 200 |
Tatws: | ||
Cynnar cyntaf | hectar | 860 |
Prif gnwd (gan gynnwys hadau) | hectar | 860 |
Betys siwgr | hectar | 240 |
Gwenith | hectar | 214(11) |
3. Cnydau garddwriaethol awyr agored | ||
Ffa cyffredin | hectar | 425 |
Ysgewyll Brwsel | hectar | 1505 |
Bresych, safwy a brocoli blaguro | hectar | 1730 |
Moron | hectar | 2270 |
Blodfresych a brocoli'r gaeaf | hectar | 975 |
Seleri | hectar | 8255 |
Cennin | hectar | 2945 |
Letys | hectar | 4150 |
Wynwns: | ||
Bylbiau sych | hectar | 1305 |
Salad | hectar | 4125 |
Pannas | hectar | 2591 |
Riwbob (naturiol) | hectar | 5000 |
Maip a swêds | hectar | 1210 |
4. Ffrwythau'r berllan | ||
Afalau: | ||
Seidr | hectar | 420 |
Coginio | hectar | 1275 |
Melys | hectar | 1250 |
Ceirios | hectar | 690 |
Gellyg | hectar | 965 |
Eirin | hectar | 1215 |
5. Ffrwythau meddal | ||
Cyrens Duon | hectar | 740 |
Mafon | hectar | 3000 |
Mefus | hectar | 3500 |
6. Amrywiol | ||
Hopys | hectar | 1670 |
7. Tir Porthiant | ||
Tir cymwys fel y'i disgrifir yn rheoliad 2A o Reoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001 | hectar | swm y taliad Tir Mynydd y mae'n rhaid ei dalu o dan Reoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001 |
8. Neilltir | ||
Tir sydd wedi'i neilltuo o dan Erthygl 2(3) o Reoliad y Cyngor 1251/99, ac eithrio pan fydd tir o'r fath yn cael ei ddefnyddio (yn unol ag erthygl 6(3) o Gyfarwyddeb y Cyngor 1251/99) ar gyfer darparu deunyddiau ar gyfer cynhyrchu cynhyrchion nad ydynt wedi eu bwriadu'n bennaf ar gyfer eu bwyta gan bobl nac anifeiliaid | hectar | 24 |
NODIADAU I'R ATODLEN
(1)
Didynner £120 o'r ffigur hwn yn achos anifeiliaid nad yw'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm at gynnal buchod sugno (premiwm buchod sugno) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 6 o Reoliad 1254/99 y Cyngorar gyd-drefnu'r farchnad mewn cig eidion a chig llo.
Ychwaneger £24 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid y mae'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â graddfa is y premiwm dad-ddwysáu y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 13 o Reoliad 1254/99 y Cyngor.
Ychwaneger £48 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid y mae'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â graddfa uwch y premiwm dad-ddwysáu y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 13 o Reoliad 1254/99 y Cyngor.
(2)
Dyma'r ffigur ar gyfer anifeiliaid a fyddai'n cael eu cadw am 12 mis.
Didynner £102 yn achos anifeiliaid a gedwir am 12 mis nad yw'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm arbennig dros gadw anifeiliaid buchol gwryw (premiwm arbennig cig eidion) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 4 o Reoliad 1254/99 y Cyngor.
Ychwaneger £24 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid a gedwir am 12 mis y mae'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â graddfa is y premiwm dad-ddwysáu.
Ychwaneger £48 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid a fyddai'n cael eu cadw am y cyfnod hwnnw ac y mae'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â graddfa uwch y premiwm dad-ddwysáu.
Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis ac nad yw'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnws swm ynglŷn â'r premiwm arbennig cig eidion, cyfrifir yr incwm blynyddol net drwy ddidynnu £102 o'r ffigur yng ngholofn 3 ac wedyn gwneud addasiad pro rata o'r ffigur canlyniadol.
Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis ac y mae'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnws swm ynglŷn â'r premiwm arbennig cig eidion, cyfrifir yr incwm blynyddol net i ddechrau drwy ddidynnu £102 o'r ffigur yng ngholofn 3, wedyn gwneud addasiad pro rata o'r ffigur canlyniadol, wedyn ychwanegu at y ffigur hwnnw y swm o £102 ac (pan fydd yr incwm blynyddol net yn cynnwys swm ynglŷn â phremiwm dad-ddwysáu) y swm o £24 (pan y telir y premiwm dad-ddwysáu ar y raddfa is) neu £48 (pan ytelir y premiwm dad-ddwysáu ar y raddfa uwch).
(3)
Mae hwn yn dangos y ffigur ar gyfer anifeiliaid (gan anwybyddu oedran) a gedwir am 12 mis. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis rhaid gwneud addasiad pro rata i'r ffigur hwn.
(4)
Didynner £17 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid nad yw'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm ar gyfer gwrthbwyso colli incwm gan gynhyrchwyr cig defaid (premiwm blynyddol defaid) y darperir ar ei gyfer yn Erthyglau 4 a 5 o Reoliad 2529/01 y Cyngor ar gyd-drefnu'r farchnad mewn cig defaid a chig geifr.
(5)
Didynner £13 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid nad yw'r incwm blynyddol ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm defaid blynyddol.
(6)
Didynner £227 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â iawndal y gall cynhyrchwyr cnydau âr wneud cais amdano (taliad arwynebedd) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 2 o Reoliad 1251/99 y Cyngor.
(7)
Didynner £262 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd.
(8)
Didynner £226 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd.
(9)
Didynner £228 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd.
(10)
Didynner £262 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd.
(11)
Didynner £228 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd.
Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi unedau cynhyrchu ar gyfer asesu cynhwysedd cynhyrchiol tir amaethyddol a leolir yng Nghymru ac yn nodi'r swm a fernir yn incwm blynyddol net gan bob uned o'r fath ar gyfer y flwyddyn 12 Medi 2002 hyd 11 Medi 2003 yn gynhwysol.
Mae gofyn cael asesiad o gynhwysedd cynhyrchiol y tir amaethyddol i benderfynu a yw'r tir dan sylw yn “uned fasnachol o dir amaethyddol” at ddibenion darpariaethau olynu yn Neddf Daliadau Amaethyddol 1986: gweler adrannau 36(3) and 50(2) yn arbennig.
Mae “uned fasnachol o dir amaethyddol” yn dir sydd, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, â'r gallu i gynhyrchu incwm blynyddol net nad yw'n llai na chyfanswm enillion blynyddol cyfartalog dau weithiwr amaethyddol gwrywaidd amser-llawn ugain oed neu drosodd (paragraff 3 o Atodlen 6 i Ddeddf 1986). Wrth benderfynu'r ffigur incwm blynyddol hwn, ni ddefnyddir o reidrwydd naill ai'r system ffermio a weithredir ar ddaliad penodol na data hanesyddol o'r daliad hwnnw. Yn hytrach, pryd bynnag y bydd defnydd ffermio penodol a grybwyllir yng ngholofn 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn berthnasol i'r penderfyniad hwn, yr unedau cynhyrchu a'r incwm blynyddol net a bennir yng ngholofnau 2 a 3 yn ôl eu trefn fydd y sail ar gyfer asesu cynhwysedd cynhyrchiol y tir dan sylw.
Mae'r ffigurau incwm blynyddol net yng ngholofn 3 o'r Atodlen yn nodi'r incwm blynyddol net o un uned gynhyrchu. Mewn rhai achosion bydd yr incwm blynyddol net yn deillio o uned a fydd ar y tir am y cyfnod llawn o ddeuddeng mis. Mewn achosion eraill bydd yr incwm blynyddol net yn deillio o uned a fydd ar y tir am ran o'r flwyddyn yn unig, a gall y bydd mwy nag un gylchred gynhyrchu yn y cyfnod o ddeuddeng mis. Bydd yr asesiad o gynhwysedd cynhyrchu'r tir yn cymryd i ystyriaeth yr holl gynhyrchu yn ystod blwyddyn.