(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheolidau hyn yn diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) 1999 trwy amnewid yr Atodlen i'r Rheoliadau hynny.

Mae'r Atodlen newydd yn diweddaru rhestr o gyrff sydd â'r hawl i enwebu personau i gael eu penodi i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae'r cyrff canlynol wedi cael eu dileu o Ran Dau o'r Atodlen:

  • Grŵ p Gweithredu Anghenion Arbennig Cymru

  • Cyngor CHM Cyf Cymru

  • Cyngor Diwydiannau ac Addysg Uwch

  • Cynhadledd Prif Athrawon a Phrif Athrawesau

  • Cyngor Ysgolion Annibynnol

  • Ffederasiwn Busnesai Bychan

Mae'r cyrff canlynol yn cael eu hychwanegu i Ran dau o'r Atodlen:

  • Cyngor Cenedlaethol am Addysg a Hyfforddiant Cymru

  • TUC Cymru

Mae enw “University Council for Education of Teachers Cymru” wedi cael ei newid i “Universities Council for Education of Teachers Cymru”.