2003 Rhif 389 (Cy.51)
ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) (Diwygio) 2003

Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1(5) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Bellach 19981 a pharagraff 3 o Atodlen 1 iddi ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru2:

Enw a chychwyn1.

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) (Diwygio) 2003 a deuant i rym ar 17 Mawrth 2003.

Diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) 19992.

(1)

Diwigir Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) 19993 fel a ganlyn.

(2)

Rhowch yr Atodlen canlynol yn lle'r Atodlen i Reoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) 1999 —

“SCHEDULEORGANISATIONS ENTITLED TO NOMINATE PERSONS FOR APPOINTMENT BY THE NATIONAL ASSEMBLY FOR WALES

PART ONE

1.

National Union of Teachers (Cymru)

2.

National Association of Schoolmasters Union of Women Teachers (Cymru)

3.

Secondary Heads Association in Wales

4.

Professional Association of Teachers

5.

National Association of Head Teachers in Wales

6.

Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru

7.

Association of Teachers and Lecturers

8.

NATFHE — The University and College Lecturers' Union

PART TWO

9.

Fforwm Ltd

10.

Further Education National Training Organisation

11.

National Association for Special Educational Needs

12.

National Council for Education and Training for Wales

13.

Association of Directors of Education in Wales

14.

Welsh Local Government Association

15.

Wales TUC Cymru

16.

Governors Wales (Confederation of School Governors Associations in Wales)

17.

Roman Catholic Church in Wales

18.

Church in Wales

19.

Churches Joint Education Policy Committee

20.

Heads of Higher Education Wales

21.

Universities Council for the Education of Teachers Cymru

22.

Confederation of British Industry Wales

23.

Parent Teacher Associations of Wales

24.

Independent Schools Information Service Wales

25.

Welsh Secondary Schools Association

26.

Welsh Primary Schools Association

27.

Institute of Directors

28.

Welsh Association of Standing Advisory Councils on Religious Education

29.

Association of Directors of Social Services in Wales

30.

Wales Council for Voluntary Action”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheolidau hyn yn diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) 1999 trwy amnewid yr Atodlen i'r Rheoliadau hynny.

Mae'r Atodlen newydd yn diweddaru rhestr o gyrff sydd â'r hawl i enwebu personau i gael eu penodi i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae'r cyrff canlynol wedi cael eu dileu o Ran Dau o'r Atodlen:

  • Grŵ p Gweithredu Anghenion Arbennig Cymru

  • Cyngor CHM Cyf Cymru

  • Cyngor Diwydiannau ac Addysg Uwch

  • Cynhadledd Prif Athrawon a Phrif Athrawesau

  • Cyngor Ysgolion Annibynnol

  • Ffederasiwn Busnesai Bychan

Mae'r cyrff canlynol yn cael eu hychwanegu i Ran dau o'r Atodlen:

  • Cyngor Cenedlaethol am Addysg a Hyfforddiant Cymru

  • TUC Cymru

Mae enw “University Council for Education of Teachers Cymru” wedi cael ei newid i “Universities Council for Education of Teachers Cymru”.