ATODLEN 2CAMAU SY'N GYMWYS MEWN ARDAL HEINTIEDIG A SEFYDLIR O DAN ERTHYGL 14
RHAN ICamau sy'n gymwys i ddaliadau yn yr ardal heintiedig
Cofnodion am foch1
Rhaid i feddiannydd daliad o fewn yr ardal heintiedig baratoi, o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol, cofnod yn ôl y categorïau o foch a gedwir ar y daliad a rhaid iddo sicrhau bod y cofnod yn cael ei ddiweddaru a'i ddangos i arolygydd ar ei gais. Yn achos daliadau lle na chedwir moch y tu mewn, ceir gwneud y cofnod drwy amcangyfrif.
Ynysu moch2
Rhaid i'r meddiannydd sicrhau —
a
bod pob mochyn ar y daliad yn cael eu cyfyngu i'r man lle y cedwir hwy neu i fan arall ar y daliad lle y gellid eu cadw ar wahân i foch fferal; a
b
bod moch fferal yn cael eu rhwystro rhag mynd at unrhyw ddeunydd y gallai'r moch ar y daliad fynd ato.
Symud moch3
Ni chaiff neb symud mochyn i mewn i'r daliad nac ohono os nad oes trwydded wedi ei rhoi i wneud hynny gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu yn unol â chyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol.
Bioddiogelwch4
Rhaid i'r meddiannydd sicrhau bod dull priodol o ddiheintio yn cael ei ddarparu a'i ddefnyddio wrth y mynedfeydd a'r allanfeydd yn y mannau hynny o'r daliad y cedwir moch ynddynt ac wrth fynedfeydd ac allanfeydd y daliad ei hunan.
Moch marw neu glaf5
Rhaid i'r meddiannydd sicrhau ei fod yn rhoi gwybod i'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol am unrhyw foch fferal sy'n marw ar y daliad a rhaid iddo gadw carcasau'r moch hynny ar y daliad nes bydd arolygydd milfeddygol wedi rhoi gwybod iddo nad oes angen gwneud hynny rhagor.
Moch fferal6
Ni chaiff neb ddod —
a
â charcas nac unrhyw ran o fochyn fferal; na
b
ag unrhyw ddeunydd na chyfarpar y gallai moch fferal yn yr ardal heintiedig fod wedi mynd atynt, i mewn i ddaliad yn yr ardal heintiedig.
RHAN IICamau sy'n gymwys yn yr ardal heintiedig
Allforio moch, semen, ofa neu embryonau o'r ardal heintiedig7
Ni chaiff neb symud yr un mochyn nac unrhyw semen, ofwm nac embryo o'r ardal heintiedig at ddibenion eu hallforio i Aelod-wladwriaeth arall.
Cysylltiad â moch fferal
8
Rhaid i unrhyw berson sy'n dod i gysylltiad â mochyn fferal yn yr ardal heintiedig cymryd camau i sicrhau nad yw'n lledaenu'r clefyd.
9
Rhaid i unrhyw berson sy'n saethu mochyn fferal neu'n cael hyd i garcas mochyn fferal roi gwybod i'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol. Os y person hwnnw a saethodd y mochyn, rhaid iddo gadw'r carcas am 24 awr ar ôl rhoi gwybod i'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol a sicrhau ei fod ar gael i'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol fel y gallai wneud unrhyw samplu neu brofion sydd, ym marn y Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol, yn briodol.