ATODLEN 1CAMAU SY'N GYMWYS MEWN PARTHAU DIOGELU A GORUCHWYLIO
RHAN ICamau sy'n gymwys mewn parth diogelu
Cyfyngu ar symud
1
Yn ddarostyngedig i baragraff 2 isod, ni chaiff neb symud na chludo'r un mochyn ar unrhyw ffordd gyhoeddus na phreifat (heblaw, os bydd angen, y ffyrdd gwasanaethu o fewn y daliad) o fewn y parth diogelu.
2
Nid yw'r gwaharddiad ym mharagraff 1 yn gymwys—
a
os yw'r symud yn cael ei wneud yn unol â pharagraffau 6 a 7;
b
i gludo moch a gafodd eu llwytho ar gerbyd y tu allan i'r parth diogelu ac yn cael eu cludo drwy'r parth hwnnw heb i'r cerbyd gael ei lwytho na'i ddadlwytho yn y parth hwnnw;
c
i symud na chludo moch o'r tu allan i'r parth diogelu gyda'r bwriad o'u cigydda ar unwaith mewn lladd-dy sydd o fewn y parth diogelu, ar yr amod bod y symud neu'r cludo wedi cael ei drwyddedu gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd yn unol â chyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol.
3
Ni chaiff neb symud unrhyw gerbyd allan o'r parth diogelu os yw'r cerbyd wedi cael ei ddefnyddio i gludo moch o fewn y parth, os nad —
a
yw wedi cael ei lanhau a'i ddiheintio ac, os oes angen, os yw gwiddonladdwr wedi ei ddefnyddio, o dan gyfarwyddyd a goruchwyliaeth arolygydd; a
b
yw'r symud wedi ei drwyddedi gan arolygydd; neu
c
yw wedi cael ei yrru drwy'r parth heb ei lwytho neu ei ddadlwytho.
4
Rhaid i feddiannydd daliad o fewn y parth diogelu sicrhau nad yw'r un rhywogaeth arall o anifail domestig yn mynd i mewn i'r daliad na'i adael os nad awdurdodwyd y symud drwy drwydded a gyhoeddwyd gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu yn unol â chyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol.
5
Ni chaiff neb fynd ag unrhyw semen, ofwm nac embryo moch o ddaliad sydd o fewn y parth diogelu.
6
Ni chaiff neb symud yr un mochyn yn y parth diogelu o'r daliad lle y cedwir ef am o leiaf 40 diwrnod ar ôl y cwblheir gwaith cychwynnol glanhau a diheintio ac unrhyw ddefnydd o widdonladdwr ar y daliad heintiedig. Ar ôl hynny ni chaiff neb symud yr un mochyn heb drwydded i wneud hynny a roddwyd gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd yn gweithredu yn unol â chyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.
7
Os —
a
yw daliad wedi bod mewn parth diogelu am hwy na 40 diwrnod oherwydd y bu achosion ychwanegol o'r clefyd yn y parth; a
b
bod hyn wedi peri problemau ynglŷn â lles neu broblemau eraill o ran cadw'r moch ar y daliad,
ceir symud mochyn oddi ar y daliad ar yr amod bod unrhyw symud o'r fath yn cael ei awdurdodi drwy drwydded a roddwyd gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd yn gweithredu yn unol â chyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol.
Lleihau cyfnodau aros8
Os yw'r Prif Swyddog Milfeddygol wedi ei fodloni yn dilyn rhaglen samplo a phrofi, nad yw'r clefyd bellach yn bodoli ar y daliad dan sylw, ceir lleihau drwy hysbysiad y cyfnod o 40 diwrnod y cyfeirir ato ym mharagraffau 6 a 7 uchod i 30 diwrnod.
Hysbysu ynghylch moch yn marw ar ddaliad9
Rhaid i feddiannydd unrhyw ddaliad o fewn y parth diogelu roi gwybod i'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol am unrhyw fochyn marw neu heintiedig sydd ar ei ddaliad.
Bioddiogelwch
10
Rhaid i berson y mae unrhyw gerbyd neu gyfarpar o dan ei ofal, os defnyddiwyd y cerbyd neu'r cyfarpar i gludo moch, da byw arall neu ddeunydd y gellid bod wedi ei heintio gan y clefyd (er enghraifft carcasau, porthiant, gwrtaith a biswail) sicrhau iddo gael ei lanhau a'i ddiheintio neu ei drin fel arall o dan gyfarwyddyd a goruchwyliaeth arolygydd milfeddygol neu arolygydd yn gweithredu yn unol â chyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol cyn gynted ag y bo modd ar ôl iddo gael ei ddefnyddio a chyn iddo gael ei ddefnyddio unwaith eto.
11
Ni chaiff neb fynd i mewn na gadael yr un daliad o fewn y parth diogelu yn gwisgo dillad neu esgidiau ac arnynt arwyddion gweledol eu bod wedi eu halogi â llaid, biswail, carthion na thail anifeiliaid nac unrhyw ddeunydd tebyg heblaw bod person o'r fath yn cael glanhau a diheintio ochrau allanol ei esgidiau wrth fynd i mewn neu adael y safle hwnnw.
RHAN IICamau sy'n gymwys mewn Parth Goruchwylio
Cyfyngu ar symud
1
Yn ddarostyngedig i baragraff 2, ni chaiff neb symud na chludo yr un mochyn ar unrhyw ffordd gyhoeddus na phreifat (heblaw, os bydd angen, y ffyrdd gwasanaethu o fewn y daliad) o fewn y parth goruchwylio os nad yw wedi cael trwydded i wneud hynny gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd yn unol â chyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.
2
Ni fydd y gwaharddiadau ym mharagraff 1 yn gymwys —
a
i gludo moch a lwythwyd i mewn i gerbyd y tu allan i'r parth goruchwylio ac sy'n cael eu cludo drwy'r parth hwnnw heb i'r cerbyd gael ei lwytho na'i ddadlwytho yn y parth; na
b
i symud neu gludo moch o'r tu allan i'r parth goruchwylio gyda'r bwriad o'u cigydda ar unwaith mewn lladd-dy sydd o fewn y parth goruchwylio, ar yr amod bod y symud neu'r cludo wedi cael ei drwyddedu gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd yn unol â chyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol.
3
Ni chaiff neb symud yr un cerbyd a ddefnyddir i gludo da byw o'r parth goruchwylio os yw wedi ei ddefnyddio i gludo moch, os nad yw yn gyntaf wedi cael ei lanhau a'i ddiheintio, ac os oes angen, â gwiddonladdwr wedi ei ddefnyddio arno, neu os na chafodd ei yrru drwy'r parth heb ei lwytho na'i ddadlwytho.
4
Rhaid i feddiannydd unrhyw ddaliad o fewn y parth goruchwylio sicrhau nad yw'r un rhywogaeth arall o anifail domestig yn mynd i mewn i'r daliad na'i adael o fewn y saith niwrnod ers sefydlu'r parth hwnnw os nad oes ganddi awdurdod i wneud hynny drwy drwydded gan arolygydd.
5
Ni chaiff neb fynd ag unrhyw semen, ofwm nac embryo moch o ddaliad sydd o fewn y parth goruchwylio.
Symud moch
6
Ni chaiff neb symud yr un mochyn o ddaliad sydd yn y parth goruchwylio am o leiaf 30 diwrnod ar ôl i waith cychwynnol glanhau a diheintio'r daliad heintiedig ac unrhyw ddefnydd o widdonladdwr gael ei gwblhau. Ar ôl hynny ni chaiff neb symud yr un mochyn os nad oes ganddo drwydded i hynny gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd.
7
Os yw daliad —
a
wedi bod o fewn parth goruchwylio am fwy na 40 diwrnod oherwydd bod achosion ychwanegol o'r clefyd; a
b
bod hynny yn peri problemau o ran lles neu broblemau eraill o ran cadw'r moch ar y daliad,
ceir symud moch o'r daliad hwnnw ar yr amod bod y symud wedi ei drwyddedi gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu yn unol â chyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.
Lleihau cyfnodau aros8
Os yw'r Prif Swyddog Milfeddygol wedi ei fodloni yn dilyn rhaglen samplo a phrofi, nad yw'r clefyd bellach yn bodoli ar y daliad dan sylw, ceir lleihau drwy hysbysiad y cyfnod o 30 diwrnod y cyfeirir ato ym mharagraff 6 uchod i 21 diwrnod a'r cyfnod o 40 diwrnod y cyfeirir ato ym mharagraff 7 uchod i 30 diwrnod.
Bioddiogelwch
9
Rhaid i berson y mae unrhyw gerbyd neu gyfarpar o dan ei ofal, os defnyddiwyd y cerbyd neu'r cyfarpar i gludo moch, da byw arall neu ddeunydd y gellid bod wedi ei heintio gan y feirws (er enghraifft carcasau, porthiant, gwrtaith a biswail) sicrhau iddo gael ei lanhau a'i ddiheintio neu ei drin fel arall cyn gynted ag y bo modd ar ôl iddo gael ei ddefnyddio a chyn iddo gael ei ddefnyddio unwaith eto yn unol â chyfarwyddyd arolygydd milfeddygol neu arolygydd neu berson arall a benodir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol sy'n gweithredu yn unol â chyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.
10
Ni chaiff neb fynd i mewn na gadael yr un daliad o fewn y parth goruchwylio yn gwisgo dillad neu esgidiau ac arnynt arwyddion gweledol eu bod wedi eu halogi â llaid, biswail, carthion na thail anifeiliaid nac unrhyw ddeunydd tebyg heblaw bod person yn cael glanhau a diheintio ochrau allanol ei esgidiau wrth fynd i mewn neu adael y safle hwnnw.
Hysbysu ynghylch moch yn marw ar ddaliad11
Rhaid i feddiannydd unrhyw ddaliad o fewn y parth goruchwylio roi gwybod i'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol am unrhyw fochyn marw neu heintiedig sydd ar y daliad.