(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys i Gymru, yn rhoi Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/60/EC (OJ Rhif L192, 20.07.2002, t.27) ar waith a honno'n adolygu camau'r Gymuned i reoli clwy affricanaidd y moch. Mae'n dirymu a disodli Gorchymyn Clwy Affricanaidd y Moch 1980 i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru.

Mae'r Gorchymyn hwn —

a

yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n amau bod mochyn neu garcas wedi ei heintio â chlwy Affricanaidd y moch (y clefyd) roi gwybod i'r rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol ac yn gosod cyfyngiadau ar symud moch neu garcasau neu bethau eraill (erthygl 4);

b

yn ei gwneud yn ofynnol i arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad sy'n gorfodi cydymffurfio â'r gofynion a nodir yn yr hysbysiad mewn amgylchiadau lle y mae'n amau bod y clefyd efallai yn bresennol (erthygl 5);

c

yn caniatáu i arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad pellach sy'n gosod cyfyngiadau ychwanegol i'r rhai sy'n ofynnol gan erthygl 5 (erthygl 6);

ch

os cadarnheir bod y clefyd yn bresennol ar ddaliad, yn ei gwneud yn ofynnol i arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad i feddiannydd y daliad yn ei gwneud yn ofynnol iddo sicrhau y cydymffurfir â'r cyfyngiadau a'r gofynion yn erthygl 5 ac unrhyw ofynion yn erthygl 6 sy'n gymwys (erthygl 7);

d

yn nodi'r camau y mae'n rhaid eu cymryd os cadarnheir bod y clefyd yn bresennol mewn lladd-dy, mewn abwyfa neu ar gyfrwng cludo (erthygl 8);

dd

yn nodi'r camau y dylid eu cymryd pan amheuir bod y clefyd wedi cael ei drosglwyddo i'r safle heintiedig neu sydd o dan amheuaeth neu ohonynt i safle arall neu ohono (erthygl 9);

e

yn darparu ar gyfer sefydlu parthau rheoli dros dro (erthygl 10);

f

yn ei gwneud yn ofynnol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, pan gaiff y clefyd ei gadarnhau, sefydlu ardal o gwmpas y safle lle y cafwyd brigiad o'r clefyd ac yn darparu ar gyfer hollti'r ardal hon yn barth diogelu a pharth goruchwylio (erthygl 11 ac Atodlen 1);

ff

yn nodi'r gofynion o ran glanhau a diheintio (erthygl 12);

g

yn nodi'r camau sydd i'w cymryd os y cadarnheir neu yr amheuir bod y clefyd yn bresennol ymhlith moch fferal (erthyglau 13 a 14 ac Atodlen 2);

ng

yn gwahardd defnyddio'r brechlyn clwy Affricanaidd y moch oni bai fod y Cynulliad Cenedlaethol yn ei awdurdodi (erthygl 15);

h

yn rhoi'r pŵer i arolygydd i gymryd camau i sicrhau bod gofynion y Gorchymyn hwn yn cael eu bodloni os yw unrhyw berson yn methu â chydymffurfio â'r cyfyngiadau a'r gofynion hynny (erthygl 16);

i

yn darparu'r manylion ynglŷn â gweithredu rhai o bwerau arolygwyr milfeddygol a swyddogion y Cynulliad Cenedlaethol a'r Ysgrifennydd Gwladol pan amheuir brigiad o glwy Affricanaidd y moch. Mae'r prif bwerau cyffredinol wedi eu nodi yn adrannau 63 a 64A o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (erthygl 17).

j

yn darparu ar gyfer gorfodi'r Gorchymyn (erthygl 18).

Mae methiant i gydymffurfio â'r Gorchymyn hwn yn dramgwydd o dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981.

Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ac wedi'i roi yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Is-adran Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.