- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys i Gymru, yn rhoi Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/60/EC (OJ Rhif L192, 20.07.2002, t.27) ar waith a honno'n adolygu camau'r Gymuned i reoli clwy affricanaidd y moch. Mae'n dirymu a disodli Gorchymyn Clwy Affricanaidd y Moch 1980 i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru.
Mae'r Gorchymyn hwn —
(a)yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n amau bod mochyn neu garcas wedi ei heintio â chlwy Affricanaidd y moch (y clefyd) roi gwybod i'r rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol ac yn gosod cyfyngiadau ar symud moch neu garcasau neu bethau eraill (erthygl 4);
(b)yn ei gwneud yn ofynnol i arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad sy'n gorfodi cydymffurfio â'r gofynion a nodir yn yr hysbysiad mewn amgylchiadau lle y mae'n amau bod y clefyd efallai yn bresennol (erthygl 5);
(c)yn caniatáu i arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad pellach sy'n gosod cyfyngiadau ychwanegol i'r rhai sy'n ofynnol gan erthygl 5 (erthygl 6);
(ch)os cadarnheir bod y clefyd yn bresennol ar ddaliad, yn ei gwneud yn ofynnol i arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad i feddiannydd y daliad yn ei gwneud yn ofynnol iddo sicrhau y cydymffurfir â'r cyfyngiadau a'r gofynion yn erthygl 5 ac unrhyw ofynion yn erthygl 6 sy'n gymwys (erthygl 7);
(d)yn nodi'r camau y mae'n rhaid eu cymryd os cadarnheir bod y clefyd yn bresennol mewn lladd-dy, mewn abwyfa neu ar gyfrwng cludo (erthygl 8);
(dd)yn nodi'r camau y dylid eu cymryd pan amheuir bod y clefyd wedi cael ei drosglwyddo i'r safle heintiedig neu sydd o dan amheuaeth neu ohonynt i safle arall neu ohono (erthygl 9);
(e)yn darparu ar gyfer sefydlu parthau rheoli dros dro (erthygl 10);
(f)yn ei gwneud yn ofynnol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, pan gaiff y clefyd ei gadarnhau, sefydlu ardal o gwmpas y safle lle y cafwyd brigiad o'r clefyd ac yn darparu ar gyfer hollti'r ardal hon yn barth diogelu a pharth goruchwylio (erthygl 11 ac Atodlen 1);
(ff)yn nodi'r gofynion o ran glanhau a diheintio (erthygl 12);
(g)yn nodi'r camau sydd i'w cymryd os y cadarnheir neu yr amheuir bod y clefyd yn bresennol ymhlith moch fferal (erthyglau 13 a 14 ac Atodlen 2);
(ng)yn gwahardd defnyddio'r brechlyn clwy Affricanaidd y moch oni bai fod y Cynulliad Cenedlaethol yn ei awdurdodi (erthygl 15);
(h)yn rhoi'r pŵer i arolygydd i gymryd camau i sicrhau bod gofynion y Gorchymyn hwn yn cael eu bodloni os yw unrhyw berson yn methu â chydymffurfio â'r cyfyngiadau a'r gofynion hynny (erthygl 16);
(i)yn darparu'r manylion ynglŷn â gweithredu rhai o bwerau arolygwyr milfeddygol a swyddogion y Cynulliad Cenedlaethol a'r Ysgrifennydd Gwladol pan amheuir brigiad o glwy Affricanaidd y moch. Mae'r prif bwerau cyffredinol wedi eu nodi yn adrannau 63 a 64A o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (erthygl 17).
(j)yn darparu ar gyfer gorfodi'r Gorchymyn (erthygl 18).
Mae methiant i gydymffurfio â'r Gorchymyn hwn yn dramgwydd o dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981.
Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ac wedi'i roi yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Is-adran Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: