Camau pellach i'w cymryd os yw hysbysiad wedi ei gyflwyno o dan erthygl 56
Os yw hysbysiad wedi ei gyflwyno o dan erthygl 5, caiff arolygydd milfeddygol, drwy gyflwyno hysbysiad pellach i feddiannydd y daliad, lladd-dy, abwyfa neu unrhyw le arall neu i'r person y mae'n ymddangos iddo sydd â gofal y cyfrwng cludo —
a
gwahardd symud unrhyw rywogaeth arall o anifail i mewn i'r safle neu oddi yno;
b
ei gwneud yn ofynnol i'r meddiannydd gymryd pob cam rhesymol i ddifa cnofilod a phryfed ar y safle;
c
ei gwneud yn ofynnol i'r meddiannydd neu'r person sy'n ymddangos ei fod â gofal y cyfrwng cludo lanhau a diheintio'r safle neu'r cyfrwng cludo a hynny ar ei draul ei hun neu ar draul yr Ysgrifennydd Gwladol mewn unrhyw fodd a bennir yn yr hysbysiad, ac o fewn unrhyw amser a bennir felly; ac
ch
yn achos cyfrwng cludo, ei gwneud yn ofynnol ei fod—
i
yn cael ei ddwyn i'r gyrchfan a bennir yn yr hysbysiad;
ii
yn cael ei ddadlwytho, ei lanhau a'i ddiheintio ac, os oes angen, defnyddio gwiddonladdwr arno, fel a bennir yn yr hysbysiad; a
iii
os pennir hynny, yn cael ei ddadlwytho, ei lanhau a'i ddiheintio a defnyddio gwiddonladdwr arno o dan oruchwyliaeth arolygydd milfeddygol.