Camau i'w cymryd tra ymchwilir i amheuaeth o'r clefyd5
1
Rhaid i arolygydd milfeddygol sy'n amau bod y clefyd yn bresennol ar unrhyw ddaliad, lladd-dy, abwyfa, lle arall neu gyfrwng cludo, neu y gallasai fod wedi bod yn bresennol yno yn y 56 diwrnod blaenorol, os yw hysbysiad wedi ei roi o dan erthygl 4 ai peidio —
a
cyflwyno hysbysiad —
i
i feddiannydd y daliad gan orfodi'r cyfyngiadau a'r gofynion a nodwyd ym mharagraffau (2) a (3); neu
ii
i feddiannydd lladd-dy neu abwyfa neu i'r person sy'n ymddangos ei fod â gofal cyfrwng cludo yn nodi pa rai o'r cyfyngiadau a'r gofynion a nodir ym mharagraffau (2) a (3) isod sy'n ymddangos yn berthnasol i'r arolygydd milfeddygol; a
b
gwneud archwiliad i gadarnhau bod y clefyd yn bresennol neu'n absennol.
2
Pan gyflwynir hysbysiad o dan baragraff 1 rhaid i'r meddiannydd —
a
paratoi, o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol, gofnod yn ôl y categorïau canlynol —
i
sawl mochyn sydd;
ii
sawl mochyn sydd, yn ôl eu golwg, heb y clefyd;
iii
sawl mochyn sydd, yn ôl eu golwg, â'r clefyd arnynt;
iv
sawl mochyn sydd wedi marw yn ystod y 56 diwrnod cyn dyddiad yr hysbysiad;
b
sicrhau bod y cofnod yn cael ei ddiweddaru i gynnwys y moch sy'n cael eu geni a'r rhai sy'n marw yn ystod y cyfnod pan fo'r cyfyngiadau a'r gofynion o dan y paragraff hwn a pharagraff (3) mewn grym a chofnodi sawl mochyn sy'n mynd yn sâl a fu gynt, yn ôl eu golwg, heb y clefyd;
c
dangos y cofnod i arolygydd ar ei gais;
ch
sicrhau bod pob mochyn ar y safle yn cael ei gadw yn ei dwlc neu yn rhyw le arall a bennir yn yr hysbysiad;
d
sicrhau, yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan arolygydd milfeddygol, bod dulliau priodol o ddiheintio yn cael eu rhoi wrth fynedfeydd ac allanfeydd y rhannau hynny o'r safle lle cedwir y moch a'r safle ei hunan.
3
Pan fydd hysbysiad wedi'i gyflwyno o dan baragraff (1), ni chaiff neb —
a
symud unrhyw fochyn i'r safle neu oddi yno os na wneir hynny yn unol â thrwydded a roddwyd gan arolygydd milfeddygol a rhaid i'r meddiannydd sicrhau nad yw'r moch yn gallu crwydro o'r tir a'r adeiladau nac i mewn iddynt;
b
symud unrhyw gig, carcas mochyn, cynnyrch a wnaed o foch, semen, ofwm nac embryo mochyn, nac unrhyw borthiant anifeiliaid, offer, deunydd na gwastraff nac unrhyw beth arall y maent yn debygol o drosglwyddo'r clefyd o'r safle, heblaw os yw hynny'n cael ei wneud yn unol â thrwydded a roddwyd gan arolygydd;
c
dod i mewn i'r safle nac ohono os nad yw'n gwneud hynny yn unol â thrwydded a roddwyd gan arolygydd milfeddygol;
ch
symud unrhyw gerbyd i mewn i'r safle nac oddi yno os nad yw'n cael ei wneud yn unol â thrwydded a roddwyd gan arolygydd milfeddygol.
4
Pan fydd gan arolygydd milfeddygol seiliau dros amau presenoldeb fectorau ar safle penodol yn sgil ei leoliad, ei sefyllfa ddaearyddol neu ei gysylltiadau â safle lle y gwyddir neu yr amheuir bod y clefyd yn bodoli (yng Nghymru neu rywle arall) caiff yr arolygydd milfeddygol hwnnw, neu arolygydd yn gweithio o dan ei gyfarwyddiadau, gyflwyno hysbysiad i feddiannydd y safle penodol, ac o wneud hynny, caiff arolygydd milfeddygol, arolygydd neu swyddog arall y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol fynd ar y safle penodol.