Hysbysu am y clefyd4

1

Rhaid i unrhyw berson sy'n amau bod y clefyd yn bresennol mewn unrhyw fochyn neu garcas—

a

y mae'n berchen arno; neu

b

sydd yn ei ofal; neu

c

y mae yn ei archwilio,

hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol yn ddiymdroi.

2

Rhaid i unrhyw berson sy'n dadansoddi samplau a gymerir o unrhyw anifail neu garcas ac sy'n darganfod tystiolaeth o wrthgorffynnau neu antigenau i'r clefyd neu unrhyw frechiad i'r clefyd hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol yn ddiymdroi.

3

Ni chaiff neb symud yr un mochyn na charcas yr amheuir ei fod wedi ei heintio gan y clefyd, nac unrhyw gig, cynnyrch a wnaed o foch, semen, ofwm nac embryo mochyn, porthiant anifeiliaid, tail (tom) na biswail nac unrhyw offer, deunydd na gwastraff y maent yn debygol o drosglwyddo'r clefyd, o'r daliad nac o le arall lle y ceir hyd iddo, oni bai fod arolygydd milfeddygol wedi ymweld â'r daliad neu'r lle arall hwnnw a bod yr arolygydd hwnnw naill ai wedi gorfodi cyfyngiadau o dan erthygl 5 neu wedi hysbysu'r person hwnnw nad oes angen, yn ei farn ef, gwneud hynny.