Pwerau Arolygwyr ac Arolygwyr Milfeddygol17

Caiff arolygydd milfeddygol sy'n mynd ar safle o dan y Gorchymyn hwn —

a

archwilio unrhyw anifail, garcas neu beth;

b

gwneud unrhyw brofion a chymeryd unrhyw samplau (gan gynnwys samplau gwaed) o unrhyw anifail, carcas neu beth y mae'n ystyried yn angenrheidiol at ddibenion dadansoddi;

c

marcio unrhyw anifail, carcas neu beth at ddibenion adnabod;

ch

cadw golwg am bresenoldeb fectorau;

d

gweithredu i reoli fectorau mewn unrhyw fodd y mae'n ystyried sy'n angenrheidiol;

dd

ei gwneud yn ofynnol difa, claddu, gwaredu neu drin unrhyw beth;

e

ei gwneud yn ofynnol i'r meddiannydd, unrhyw filfeddyg sydd wedi mynd i weld unrhyw anifail ar y safle ac unrhyw berson sydd wedi bod â gofal neu mewn cysylltiad ag unrhyw anifail o'r fath i'w hysbysu o unrhyw anifail neu safle arall y gallai'r anifail hwnnw fod wedi dod i gysylltiad a hwy;

f

ei gwneud yn ofynnol i feddiannydd unrhyw safle ddangos yr hysbysiadau neu'r arwyddion y cyfeirir atynt yn erthygl 11(5).

2

Caiff arolygydd neu unrhyw swyddog y Cynulliad Cenedlaethol sy'n mynd i'r safle—

a

mynd gydag ef neu hi —

i

cerbyd (ar yr amod bod mynediad i gerbyd o'r fath yn rhesymol ymarferol);

ii

y cyfarpar hwnnw y mae'n barnu ei fod yn angenrheidiol; a

iii

unrhyw berson arall y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol at unrhyw ddiben mewn perthynas â gweithredu a gorfodi'r Gorchymyn hwn.

b

ymgymryd â chadw golwg am bresenoldeb fectorau o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol; ac

c

gweithredu unrhyw fesurau rheoli fectorau y mae arolygydd milfeddygol yn eu hystyried yn angenrheidiol.