Glanhau a diheintio12

1

Wrth ddiheintio o dan y Gorchymyn hwn, rhaid defnyddio diheintydd sydd wedi ei gymeradwyo at y diben hwnnw o dan Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 19783.

2

Rhaid i widdonladdwyr a ddefnyddir at ddibenion y Gorchymyn hwn fod wedi'u cofrestru o dan Reoliadau Rheoli Plaladdwyr 19864 neu wedi'u hawdurdodi o dan Reoliadau Cynhyrchion Bywleiddaidd 20025.

3

Rhaid i weithrediadau glanhau a diheintio ac, os yw'n bridol, defnyddio gwiddonladdwr ar safle gael eu gwneud o dan oruchwyliaeth arolygydd milfeddygol neu arolygydd yn unol รข chyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol.