YR ATODLENADDASIADAU I'R ATODLEN I REOLIADAU ADDYSG (GWAHARDD DISGYBLION AC APELAU) (YSGOLION A GYNHELIR) (CYMRU) 2003
1
Yn lle paragraff 1(1) rhoddir —
1
1
Ni cheir gwneud apêl o dan reoliad 8(1) yn erbyn penderfyniad i wahardd disgybl yn barhaol ar ôl y pymthegfed diwrnod ysgol ar ôl y diwrnod y rhoddwyd i'r person perthnasol hysbysiad ysgrifenedig o dan reoliad 5(3)(b).
2
Ym mharagraff 1(3), yn lle'r geiriau “i beidio â derbyn disgybl yn ôl”, rhoddir “i wahardd y disgybl yn barhaol”.
3
Yn lle “rheoliad 7(1)” ym mhob man y mae'n digwydd, rhodder “rheoliad 8(1)”.
4
Yn lle paragraff 2(7) rhoddir —
7
Datgymhwysir y bobl a ganlyn rhag bod yn aelodau panel apêl —
a
unrhyw aelod o'r awdurdod addysg lleol neu bwyllgor rheoli (os oes un) yr uned cyfeirio disgyblion o dan sylw;
b
yr athro neu'r athrawes sydd â gofal yr uned cyfeirio disgyblion o dan sylw neu unrhyw athro neu athrawes yn yr uned honno neu unrhyw berson sydd wedi dal unrhyw swydd o'r fath yn y pum mlynedd flaenorol;
c
unrhyw berson a gyflogir gan yr awdurdod addysg lleol, heblaw person a gyflogir fel pennaeth neu athro neu athrawes;
ch
unrhyw berson y mae ganddo, neu y bu ganddo ar unrhyw adeg, gysylltiad â'r canlynol —
i
yr awdurdod addysg lleol neu'r uned cyfeirio disgyblion, neu gysylltiad ag unrhyw berson o fewn paragraff (b) neu (c), neu
ii
y disgybl o dan sylw neu â'r digwyddiad a arweiniodd at ei wahardd,
o fath, y gellid yn rhesymol gymryd, a fyddai'n codi amheuon am ei allu i weithredu'n ddiduedd.
5
Yn lle paragraff 10(2) rhoddir —
2
Rhaid i'r panel hefyd ganiatáu —
a
i'r athro neu'r athrawes â gofal roi sylwadau ysgrifenedig, i gael ei gynrychioli neu ei chynrychioli ac i ymddangos a rhoi sylwadau llafar, a
b
i'r awdurdod addysg lleol roi sylwadau ysgrifenedig, yn ychwanegol at y datganiad y mae'n ofynnol i'r awdurdod ei gyflwyno i'r panel o dan is-baragraff (1), i gael ei gynrychioli ac i ymddangos a rhoi sylwadau llafar.
6
Ym mharagraff 14(a) hepgorir “y corff llywodraethu”.