Swyddogaethau awdurdod addysg lleol mewn perthynas â disgyblion wedi'u gwahardd am gyfnod penodedig7

1

Mae paragraffau (2) i (6) yn gymwys pan hysbysir awdurdod addysg lleol o dan reoliad 5(2) o waharddiad unrhyw ddisgybl am gyfnod penodedig, a bod yr amgylchiadau yn golygu y byddai'r disgybl, yn sgil y gwaharddiad —

a

yn cael ei wahardd o'r uned cyfeirio disgyblion am gyfanswm o fwy na phymtheg diwrnod ysgol mewn unrhyw dymor unigol, neu

b

yn colli cyfle i sefyll arholiad cyhoeddus.

2

Ym mhob achos o'r fath rhaid i'r awdurdod addysg lleol —

a

ystyried o dan ba amgylchiadau y cafodd y disgybl ei wahardd;

b

ystyried unrhyw sylwadau ynghylch y gwaharddiad sy'n cael eu rhoi i'r awdurdod addysg lleol —

i

gan y person perthnasol yn unol â rheoliad 5(1)(c),

ii

gan y disgybl sydd wedi'i wahardd yn unol â rheoliad 5(1)(c) os nad y person perthnasol yw'r disgybl hwnnw, a

iii

gan yr athro neu'r athrawes sydd â gofal yr uned cyfeirio disgyblion;

c

caniatáu i bob un o'r canlynol, sef —

i

y person perthnasol, a

ii

y disgybl sydd wedi'i wahardd os nad y person perthnasol yw'r disgybl hwnnw, a

iii

yr athro neu'r athrawes sydd â gofal yr uned cyfeirio disgyblion,

fynd i gyfarfod â'r awdurdod addysg lleol a rhoi sylwadau llafar am y gwaharddiad; ac

ch

ystyried unrhyw sylwadau llafar sy'n cael eu rhoi felly.

3

Rhaid i'r awdurdod addysg lleol ystyried a ddylid derbyn y disgybl yn ôl neu beidio, ac os yw'n ystyried y dylid derbyn y disgybl yn ôl, rhaid iddo'n ychwanegol ystyried a ddylid ei dderbyn yn ôl ar unwaith, neu a ddylid ei dderbyn yn ôl erbyn dyddiad penodol.

4

Os bydd yr awdurdod addysg lleol yn penderfynu y dylid derbyn disgybl yn ôl, rhaid iddo yn ddi-oed —

a

rhoi'r cyfarwyddyd priodol i'r athro neu'r athrawes â gofal, a

b

hysbysu'r person perthnasol o'i benderfyniad.

5

Rhaid i'r athro neu'r athrawes â gofal gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd gan yr awdurdod addysg lleol i dderbyn disgybl a gafodd ei wahardd yn ôl i'r uned cyfeirio disgyblion.

6

Os bydd yr awdurdod addysg lleol yn penderfynu na ddylid derbyn disgybl yn ôl, rhaid iddo hysbysu'r person perthnasol a'r athro neu'r athrawes â gofal yn ddi-oed am ei benderfyniad a'r rhesymau drosto.

7

Os digwydd y canlynol —

a

bod yr athro neu'r athrawes sydd â gofal uned cyfeirio disgyblion yn gwahardd disgybl am gyfnod penodedig mewn achos nad yw paragraffau (2) i (6) yn gymwys iddo; a

b

bod yr awdurdod addysg lleol yn cael unrhyw sylwadau sydd wedi'u gwneud yn unol â rheoliad 5(1)(c) gan y person perthnasol ynghylch y gwaharddiad,

rhaid iddo ystyried y sylwadau hynny.

8

Yn ddarostyngedig i baragraff (9), rhaid i'r awdurdod addysg lleol gymryd pob un o'r camau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) —

a

dim cynharach na chwe diwrnod ysgol; a

b

dim hwyrach na 15 diwrnod ysgol, yn achos gwaharddiad am gyfnod penodedig o fwy na 15 diwrnod ysgol; neu

c

dim hwyrach na 50 diwrnod ysgol, yn achos gwaharddiad am gyfnod penodedig o 15 diwrnod ysgol neu lai;

ar ôl y dyddiad yr hysbyswyd ef o'r materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 5(2).

9

Os gwaharddwyd disgybl am gyfnod penodedig mewn amgylchiadau lle y byddai, yn sgil y gwaharddiad, yn colli cyfle i sefyll arholiad cyhoeddus, rhaid i'r awdurdod addysg lleol (i'r graddau y mae'n ymarferol iddo wneud hynny) gymryd pob un o'r camau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) cyn y dyddiad y mae'r disgybl i sefyll yr arholiad a beth bynnag dim hwyrach na'r hyn sy'n ofynnol ym mharagraff (8).

10

Nid yw'r corff llywodraethu i gael ei ryddhau o'r ddyletswydd i gymryd unrhyw gam y cyfeirir ato ym mharagraff (2) am na chafodd ei gymryd o fewn y cyfnodau a bennir ym mharagraffau (8) a (9).