Gwahardd disgyblion: darparu gwybodaeth i'r awdurdod addysg lleol a Chynulliad Cenedlaethol Cymru6

1

Yn ystod pob tymor rhaid i'r athro neu'r athrawes â gofal ddarparu'r wybodaeth ganlynol am bob gwaharddiad i'r awdurdod addysg lleol —

a

enw, oedran, rhyw a grŵp ethnig y disgybl sydd wedi'i wahardd;

b

a oes gan y disgybl sydd wedi'i wahardd ddatganiad o anghenion addysgol arbennig sy'n cael ei gadw gan awdurdod addysg lleol o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 19965, a yw'n cael ei asesu ar gyfer datganiad o'r fath neu a yw'n cael cymorth ar ffurf Gweithredu gan yr Ysgol neu Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy yn unol â “Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru6” a gyhoeddwyd o dan adran 313 o Ddeddf Addysg 1996 ac a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2002;

c

a yw'r disgybl sydd wedi'i wahardd yn derbyn gofal gan awdurdod lleol;

ch

cyfnod y gwaharddiad; a

d

y rheswm dros y gwaharddiad.

2

Rhaid i awdurdod addysg lleol ddarparu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, os bydd yn gofyn amdani, unrhyw wybodaeth y mae'r awdurdod hwnnw wedi'i chael oddi wrth athro neu athrawes â gofal o dan reoliad 5(5) a 6(1).