Gwahardd disgyblion: y ddyletswydd i hysbysu'r person perthnasol a'r awdurdod addysg lleol5
1
Os bydd athro neu athrawes â gofal uned cyfeirio disgyblion yn gwahardd unrhyw ddisgybl am gyfnod penodedig, rhaid i'r athro neu'r athrawes â gofal yn ddi-oed gymryd camau rhesymol i hysbysu'r person perthnasol o'r materion canlynol —
a
cyfnod y gwaharddiad;
b
y rhesymau dros y gwaharddiad;
c
y caiff roi sylwadau am y gwaharddiad i'r awdurdod addysg lleol a chaiff y disgybl sydd wedi'i wahardd roi sylwadau hefyd am y gwaharddiad i'r awdurdod addysg lleol os nad y person perthnasol yw'r disgybl hwnnw; ac
ch
drwy ba ddull y caniateir i'r sylwadau hynny gael eu rhoi.
2
Os bydd athro neu athrawes â gofal uned cyfeirio disgyblion yn gwahardd unrhyw ddisgybl am gyfnod penodedig mewn amgylchiadau y byddai'r disgybl, yn sgil y gwaharddiad —
a
yn cael ei wahardd o'r uned cyfeirio disgyblion am gyfanswm o fwy na phum diwrnod ysgol mewn unrhyw dymor unigol, neu
b
yn colli cyfle i sefyll unrhyw arholiad cyhoeddus,
rhaid i'r athro neu'r athrawes â gofal hysbysu'r awdurdod addysg lleol yn ddi-oed o gyfnod y gwaharddiad a'r rheswm drosto.
3
Os bydd athro neu athrawes â gofal uned cyfeirio disgyblion yn gwahardd unrhyw ddisgybl yn barhaol neu'n penderfynu y dylid gwneud unrhyw waharddiad ar ddisgybl am gyfnod penodedig yn waharddiad parhaol, rhaid i'r athro neu'r athrawes â gofal yn ddi-oed —
a
cymryd camau rhesymol i hysbysu'r person perthnasol a'r awdurdod addysg lleol o'r penderfyniad a'r rhesymau drosto; a
b
yn ychwanegol roi hysbysiad ysgrifenedig i'r person perthnasol o'r penderfyniad gan ddatgan y materion canlynol —
i
y rhesymau dros y penderfyniad,
ii
ei hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad,
iii
y person y dylai roi unrhyw hysbysiad apêl iddo,
iv
bod yn rhaid i unrhyw hysbysiad apêl gynnwys seiliau'r apêl, a
v
y dyddiad olaf y ceir gwneud yr apêl.
4
Ceir rhoi'r hysbysiad ysgrifenedig y cyfeirir ato ym mharagraff (3)(b) naill ai —
a
drwy ei draddodi â llaw i gyfeiriad hysbys diwethaf y person perthnasol, neu
b
drwy ei anfon drwy bost dosbarth cyntaf mewn amlen sydd wedi'i chyfeirio'n briodol ac y mae wedi talu ymlaen llaw amdani i gyfeiriad hysbys diwethaf y person perthnasol.
5
Ym mhob tymor rhaid i'r athro neu'r athrawes â gofal hysbysu'r awdurdod addysg lleol o unrhyw waharddiadau na ddônt o fewn paragraffau (2) neu (3) ac yn achos pob gwaharddiad o'r fath rhaid darparu manylion am gyfnod y gwaharddiad a'r rheswm drosto.