Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 9 Ionawr 2004.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Dehongli2
1
Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;
ystyr “y person perthnasol” (“the relevant person”) —
- a
o ran disgybl a oedd yn 10 oed neu'n iau ar y diwrnod cyn dechrau'r flwyddyn ysgol y cafodd y disgybl hwnnw ei wahardd, yw un o'i rieni;
- b
o ran disgybl o oedran ysgol gorfodol a oedd yn 11 oed neu'n hŷn ar y diwrnod cyn dechrau'r flwyddyn ysgol y cafodd y disgybl hwnnw ei wahardd, yw'r disgybl hwnnw ac un o'i rieni;
- c
o ran disgybl sy'n hŷn nag oedran ysgol gorfodol, yw'r disgybl ei hun;
- a
ystyr “Rheoliadau 2003” (“the 2003 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 20033.
2
Mae unrhyw waharddiad am gyfnod penodedig yn ystod y cyfnod rhwng sesiwn y bore a sesiwn y prynhawn mewn ysgol ar gyfer dibenion y Rheoliadau hyn i'w cymryd yn gyfystyr â chwarter diwrnod ysgol.
Y Corff Cyfrifol3
At ddibenion adran 52(5) o Ddeddf 2002 rhagnodir yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal uned cyfeirio disgyblion4 fel y corff cyfrifol mewn perthynas â gwaharddiad am gyfnod penodedig o'r uned cyfeirio disgyblion honno.
Pŵer athro neu athrawes â gofal i wahardd disgyblion4
Ni chaiff athro neu athrawes â gofal arfer y pŵer o dan adran 52(2) o Ddeddf 2002 er mwyn gwahardd disgybl o'r uned cyfeirio disgyblion am gyfnod neu gyfnodau penodedig, os bydd hynny'n golygu y byddai'r plentyn yn cael ei wahardd am fwy na 45 diwrnod ysgol mewn unrhyw flwyddyn ysgol unigol.
Gwahardd disgyblion: y ddyletswydd i hysbysu'r person perthnasol a'r awdurdod addysg lleol5
1
Os bydd athro neu athrawes â gofal uned cyfeirio disgyblion yn gwahardd unrhyw ddisgybl am gyfnod penodedig, rhaid i'r athro neu'r athrawes â gofal yn ddi-oed gymryd camau rhesymol i hysbysu'r person perthnasol o'r materion canlynol —
a
cyfnod y gwaharddiad;
b
y rhesymau dros y gwaharddiad;
c
y caiff roi sylwadau am y gwaharddiad i'r awdurdod addysg lleol a chaiff y disgybl sydd wedi'i wahardd roi sylwadau hefyd am y gwaharddiad i'r awdurdod addysg lleol os nad y person perthnasol yw'r disgybl hwnnw; ac
ch
drwy ba ddull y caniateir i'r sylwadau hynny gael eu rhoi.
2
Os bydd athro neu athrawes â gofal uned cyfeirio disgyblion yn gwahardd unrhyw ddisgybl am gyfnod penodedig mewn amgylchiadau y byddai'r disgybl, yn sgil y gwaharddiad —
a
yn cael ei wahardd o'r uned cyfeirio disgyblion am gyfanswm o fwy na phum diwrnod ysgol mewn unrhyw dymor unigol, neu
b
yn colli cyfle i sefyll unrhyw arholiad cyhoeddus,
rhaid i'r athro neu'r athrawes â gofal hysbysu'r awdurdod addysg lleol yn ddi-oed o gyfnod y gwaharddiad a'r rheswm drosto.
3
Os bydd athro neu athrawes â gofal uned cyfeirio disgyblion yn gwahardd unrhyw ddisgybl yn barhaol neu'n penderfynu y dylid gwneud unrhyw waharddiad ar ddisgybl am gyfnod penodedig yn waharddiad parhaol, rhaid i'r athro neu'r athrawes â gofal yn ddi-oed —
a
cymryd camau rhesymol i hysbysu'r person perthnasol a'r awdurdod addysg lleol o'r penderfyniad a'r rhesymau drosto; a
b
yn ychwanegol roi hysbysiad ysgrifenedig i'r person perthnasol o'r penderfyniad gan ddatgan y materion canlynol —
i
y rhesymau dros y penderfyniad,
ii
ei hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad,
iii
y person y dylai roi unrhyw hysbysiad apêl iddo,
iv
bod yn rhaid i unrhyw hysbysiad apêl gynnwys seiliau'r apêl, a
v
y dyddiad olaf y ceir gwneud yr apêl.
4
Ceir rhoi'r hysbysiad ysgrifenedig y cyfeirir ato ym mharagraff (3)(b) naill ai —
a
drwy ei draddodi â llaw i gyfeiriad hysbys diwethaf y person perthnasol, neu
b
drwy ei anfon drwy bost dosbarth cyntaf mewn amlen sydd wedi'i chyfeirio'n briodol ac y mae wedi talu ymlaen llaw amdani i gyfeiriad hysbys diwethaf y person perthnasol.
5
Ym mhob tymor rhaid i'r athro neu'r athrawes â gofal hysbysu'r awdurdod addysg lleol o unrhyw waharddiadau na ddônt o fewn paragraffau (2) neu (3) ac yn achos pob gwaharddiad o'r fath rhaid darparu manylion am gyfnod y gwaharddiad a'r rheswm drosto.
Gwahardd disgyblion: darparu gwybodaeth i'r awdurdod addysg lleol a Chynulliad Cenedlaethol Cymru6
1
Yn ystod pob tymor rhaid i'r athro neu'r athrawes â gofal ddarparu'r wybodaeth ganlynol am bob gwaharddiad i'r awdurdod addysg lleol —
a
enw, oedran, rhyw a grŵp ethnig y disgybl sydd wedi'i wahardd;
b
a oes gan y disgybl sydd wedi'i wahardd ddatganiad o anghenion addysgol arbennig sy'n cael ei gadw gan awdurdod addysg lleol o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 19965, a yw'n cael ei asesu ar gyfer datganiad o'r fath neu a yw'n cael cymorth ar ffurf Gweithredu gan yr Ysgol neu Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy yn unol â “Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru6” a gyhoeddwyd o dan adran 313 o Ddeddf Addysg 1996 ac a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2002;
c
a yw'r disgybl sydd wedi'i wahardd yn derbyn gofal gan awdurdod lleol;
ch
cyfnod y gwaharddiad; a
d
y rheswm dros y gwaharddiad.
2
Rhaid i awdurdod addysg lleol ddarparu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, os bydd yn gofyn amdani, unrhyw wybodaeth y mae'r awdurdod hwnnw wedi'i chael oddi wrth athro neu athrawes â gofal o dan reoliad 5(5) a 6(1).
Swyddogaethau awdurdod addysg lleol mewn perthynas â disgyblion wedi'u gwahardd am gyfnod penodedig7
1
Mae paragraffau (2) i (6) yn gymwys pan hysbysir awdurdod addysg lleol o dan reoliad 5(2) o waharddiad unrhyw ddisgybl am gyfnod penodedig, a bod yr amgylchiadau yn golygu y byddai'r disgybl, yn sgil y gwaharddiad —
a
yn cael ei wahardd o'r uned cyfeirio disgyblion am gyfanswm o fwy na phymtheg diwrnod ysgol mewn unrhyw dymor unigol, neu
b
yn colli cyfle i sefyll arholiad cyhoeddus.
2
Ym mhob achos o'r fath rhaid i'r awdurdod addysg lleol —
a
ystyried o dan ba amgylchiadau y cafodd y disgybl ei wahardd;
b
ystyried unrhyw sylwadau ynghylch y gwaharddiad sy'n cael eu rhoi i'r awdurdod addysg lleol —
i
gan y person perthnasol yn unol â rheoliad 5(1)(c),
ii
gan y disgybl sydd wedi'i wahardd yn unol â rheoliad 5(1)(c) os nad y person perthnasol yw'r disgybl hwnnw, a
iii
gan yr athro neu'r athrawes sydd â gofal yr uned cyfeirio disgyblion;
c
caniatáu i bob un o'r canlynol, sef —
i
y person perthnasol, a
ii
y disgybl sydd wedi'i wahardd os nad y person perthnasol yw'r disgybl hwnnw, a
iii
yr athro neu'r athrawes sydd â gofal yr uned cyfeirio disgyblion,
fynd i gyfarfod â'r awdurdod addysg lleol a rhoi sylwadau llafar am y gwaharddiad; ac
ch
ystyried unrhyw sylwadau llafar sy'n cael eu rhoi felly.
3
Rhaid i'r awdurdod addysg lleol ystyried a ddylid derbyn y disgybl yn ôl neu beidio, ac os yw'n ystyried y dylid derbyn y disgybl yn ôl, rhaid iddo'n ychwanegol ystyried a ddylid ei dderbyn yn ôl ar unwaith, neu a ddylid ei dderbyn yn ôl erbyn dyddiad penodol.
4
Os bydd yr awdurdod addysg lleol yn penderfynu y dylid derbyn disgybl yn ôl, rhaid iddo yn ddi-oed —
a
rhoi'r cyfarwyddyd priodol i'r athro neu'r athrawes â gofal, a
b
hysbysu'r person perthnasol o'i benderfyniad.
5
Rhaid i'r athro neu'r athrawes â gofal gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd gan yr awdurdod addysg lleol i dderbyn disgybl a gafodd ei wahardd yn ôl i'r uned cyfeirio disgyblion.
6
Os bydd yr awdurdod addysg lleol yn penderfynu na ddylid derbyn disgybl yn ôl, rhaid iddo hysbysu'r person perthnasol a'r athro neu'r athrawes â gofal yn ddi-oed am ei benderfyniad a'r rhesymau drosto.
7
Os digwydd y canlynol —
a
bod yr athro neu'r athrawes sydd â gofal uned cyfeirio disgyblion yn gwahardd disgybl am gyfnod penodedig mewn achos nad yw paragraffau (2) i (6) yn gymwys iddo; a
b
bod yr awdurdod addysg lleol yn cael unrhyw sylwadau sydd wedi'u gwneud yn unol â rheoliad 5(1)(c) gan y person perthnasol ynghylch y gwaharddiad,
rhaid iddo ystyried y sylwadau hynny.
8
Yn ddarostyngedig i baragraff (9), rhaid i'r awdurdod addysg lleol gymryd pob un o'r camau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) —
a
dim cynharach na chwe diwrnod ysgol; a
b
dim hwyrach na 15 diwrnod ysgol, yn achos gwaharddiad am gyfnod penodedig o fwy na 15 diwrnod ysgol; neu
c
dim hwyrach na 50 diwrnod ysgol, yn achos gwaharddiad am gyfnod penodedig o 15 diwrnod ysgol neu lai;
ar ôl y dyddiad yr hysbyswyd ef o'r materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 5(2).
9
Os gwaharddwyd disgybl am gyfnod penodedig mewn amgylchiadau lle y byddai, yn sgil y gwaharddiad, yn colli cyfle i sefyll arholiad cyhoeddus, rhaid i'r awdurdod addysg lleol (i'r graddau y mae'n ymarferol iddo wneud hynny) gymryd pob un o'r camau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) cyn y dyddiad y mae'r disgybl i sefyll yr arholiad a beth bynnag dim hwyrach na'r hyn sy'n ofynnol ym mharagraff (8).
10
Nid yw'r corff llywodraethu i gael ei ryddhau o'r ddyletswydd i gymryd unrhyw gam y cyfeirir ato ym mharagraff (2) am na chafodd ei gymryd o fewn y cyfnodau a bennir ym mharagraffau (8) a (9).
Apelau yn erbyn gwahardd disgyblion yn barhaol8
1
Rhaid i awdurdod addysg lleol wneud trefniadau i alluogi'r person perthnasol i apelio yn erbyn unrhyw benderfyniad gan yr athro neu'r athrawes â gofal o dan adran 52(2) i wahardd disgybl yn barhaol o uned cyfeirio disgyblion a gynhelir gan yr awdurdod.
2
Mae'r Atodlen i Reoliadau 2003 yn effeithiol, gyda'r addasiadau a ragnodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, mewn perthynas â gwneud a gwrando ar apelau yn unol â'r trefniadau a wnaed o dan baragraff (1); ac ym mharagraffau (3) i (5) ystyr “panel apêl” yw panel apêl a ffurfiwyd yn unol â pharagraff 2 o'r Atodlen i Reoliadau 2003 fel y'u haddaswyd.
3
Nid yw panel apêl i benderfynu bod disgybl i'w dderbyn yn ôl ddim ond oherwydd i unrhyw berson fethu cydymffurfio ag unrhyw ofynion gweithdrefnol a osodwyd gan neu o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â'r penderfyniad o dan adran 52(2) o Ddeddf 2002 y mae'r apêl yn cael ei dwyn yn ei herbyn.
4
Bydd penderfyniad panel apelau ar apêl yn unol â threfniadau a wnaed o dan baragraff (1) yn rhwymol ar y person perthnasol, yr athro neu'r athrawes â gofal a'r awdurdod addysg lleol.
5
Ar apêl o'r fath caiff y panel apêl —
a
cadarnhau'r gwaharddiad;
b
cyfarwyddo bod y disgybl i gael ei dderbyn yn ôl (naill ai ar unwaith neu erbyn dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd), neu
c
penderfynu oherwydd amgylchiadau eithriadol neu am resymau eraill nad yw'n ymarferol i roi cyfarwyddyd yn ei gwneud yn ofynnol i'w dderbyn yn ôl, ond y byddai fel arall wedi bod yn briodol i roi cyfarwyddyd o'r fath.
Gwahardd disgyblion: canllawiau9
Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw swyddogaethau —
a
yr athro neu'r athrawes sydd â gofal uned cyfeirio disgyblion,
b
awdurdod addysg lleol, neu
c
panel apêl a ffurfiwyd yn unol â pharagraff 2 o'r Atodlen i Reoliadau 2003 fel y'u haddaswyd,
o dan adran 52(2) o Ddeddf 2002 neu o dan y Rheoliadau hyn.
2
Wrth gyflawni unrhyw swyddogaeth o'r fath, rhaid i'r cyfryw berson neu gorff roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir o dro i dro gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Dirymu10
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (2) dirymir Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Apelau yn erbyn Gwaharddiadau Parhaol) (Cymru) 20037.
2
Nid oes dim ym mharagraff (1) i effeithio ar gymhwysiad parhaol y Rheoliadau hynny yn rhinwedd rheoliad 7 o Reoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol) (Rhif 2) (Cymru) 20038 (disgyblion sydd wedi'u gwahardd cyn 9 Ionawr 2004).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19989