(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) 1997 (“Rheoliadau 1997”), sy'n gosod rhwymedigaethau ar gynhyrchwyr ac, ar eu rhan, gweithredwyr cynllun, i adenill ac ailgylchu tunelleddau penodedig o wastraff deunydd pacio, a rhwymedigaethau cysylltiedig, er mwyn cyrraedd y targedau yn Ethygl 6(1) o Gyfarwyddeb 94/62/EC (“y Gyfarwyddeb”), y bu rhaid eu cyrraedd yn 2001. Mae diwygiad i'r Gyfarwyddeb, a fydd yn gosod targedau newydd y bydd rhaid eu cyrraedd yn 2008, yn cael ei negodi ar hyn o bryd; disgwylir cytuno arno cyn bo hir. Nid yw'r targedau sydd yn Rheoliadau 1997 ar hyn o bryd yn ddigon uchel i alluogi'r Deyrnas Gyfunol i godi ei chyfraddau adennill ac ailgylchu yn ddigonol i allu cyrraedd y targedau Cyfarwyddeb newydd arfaethedig yn 2008. Mae'r Rheoliadau hyn felly yn gosod targedau domestig dros dro, ynghyd â rhwymedigaethau adennill ac ailgylchu, sy'n adlewyrchu'r targedau newydd y bydd y Deyrnas Gyfunol yn debygol o orfod eu cyrraedd yn 2008.
Mae paragraff 1 o'r Atodlen yn gwneud diwygiadau i reoliad 2 o Reoliadau 1997 sy'n mewnosod nifer o ddiffiniadau newydd ac yn diwygio eraill.
Mae paragraff 2 yn cyflwyno rhwymedigaeth newydd i weithredwyr cynllun gymryd camau rhesymol i ddiwallu'r rhwymedigaethau adennill ac ailgylchu a fyddai wedi syrthio ar aelodau'r cynllun oni bai eu bod yn aelodau o'r cynllun.
Mae paragraff 3 yn gwneud nifer o ddiwygiadau i Rhan III o Reoliadau 1997 ynghylch cofrestru, gan gynnwys yn arbennig —
a
gofyniad bod yn rhaid i ffurflenni cais am gofrestru cael eu llofnodi gan berson a gymeradwywyd;
b
darpariaeth bod yr Asiantaeth briodol i fod i gynnwys gofynion gwybodaeth ychwanegol o fewn y ffurflen gais;
c
gofynion bod yn rhaid i gynhyrchwyr (dros rai trothwyau trosiant a thunnelledd), a gweithredwyr cynllun, gydymffurfio â'r planiau gweithredu y mae'n rhaid iddynt fod wedi eu cyflwyno;
ch
cysoni'r amodau cofrestru sy'n gymwys i gynhyrchwyr ac i weithredwyr cynllun;
d
newid y dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid cyflwyno planiau gweithredu diwygiedig i 31 Ionawr ym mhob blwyddyn;
dd
cyflwyno taliadau newydd am geisiadau sy'n cael eu cyflwyno'n hwyr, rhai y mae'n rhaid eu hailgyflwyno, a'r rhai sy'n perthyn i is-gwmnïau o fewn grwpiau;
e
gofyniad i weithredwyr cynllun gyflwyno planiau monitro sy'n nodi'r camau y maent yn bwriadu eu cymryd er mwyn sicrhau cywirdeb yr wybodaeth y maent yn ei chael oddi wrth aelodau cynllun;
f
gofynion gweithdrefnol newydd ar gyfer cael cydsyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer cynllun;
g
gofyniad am geisiadau cofrestru blynyddol yn lle adnewyddiadau blynyddol; a
ng
gofynion sy'n ymwneud â chyflwyno gwybodaeth i weithredwyr cynllun gan aelodau cynllun.
Mae paragraff 4 yn cyflwyno hawliau apelio ar gyfer cynhyrchwyr, ail-broseswyr ac allforwyr.
Mae paragraff 5 yn mewnosod Rhan IVA newydd yn Rheoliadau 1997 gan ei gwneud hi'n ofynnol i ail-broseswyr ac allforwyr gael eu hachredu i ddyroddi nodiadau adennill gwastraff deunydd pacio a nodiadau adennill allforio gwastraff deunydd pacio.
Mae paragraff 6 yn diwygio Rhan V o Reoliadau 1997 gan ei gwneud hi'n ofynnol cyflwyno cofnodion ac adroddiadau i'r Asiantaeth briodol gan gynhyrchwyr a gweithredwyr cynllun.
Mae paragraff 7 yn diwygio Rhan VI o Reoliadau 1997 gan sicrhau bod y rhwymedigaethau monitro sy'n gymwys i'r Asiantaeth briodol yn cynnwys monitro'r rhwymedigaethau newydd sy'n cael eu gosod ar weithredwyr cynllun ac ar ail-broseswyr achrededig ac allforwyr; ac i gynyddu cwmpas pŵ er yr Asiantaeth i gyflwyno hysbysiadau sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i'r rhai sy'n eu derbyn gyflwyno gwybodaeth i'r Asiantaeth.
Mae paragraff 8 yn diwygio Rhan X o Reoliadau 1997 gan gyflwyno troseddau newydd y gall gweithredwyr cynllun, aelodau cynllun, ail-broseswyr ac allforwyr fod yn atebol amdanynt.
Mae paragraff 9 yn gwneud mân ddiwygiadau canlyniadol i Atodlen 1 i Reoliadau 1997.
Mae paragraff 10 yn diwygio Atodlen 2 i Reoliadau 1997 er mwyn gosod targedau adennill ac ailgylchu sy'n adlewyrchu'r diwygiadau disgwyliedig i'r targedau Cyfarwyddeb.
Mae paragraff 11 yn mewnosod Atodlen 2A newydd yn Rheoliadau 1997 sy'n gosod allan yr amodau achredu y cyfeirir atynt yn y rheoliad 21C newydd sy'n cael ei fewnosod gan reoliad 8 o'r Rheoliadau hyn.
Mae paragraff 12 yn diwygio'r gweithrediadau adennill a nodir yn Atodlen 3 i Reoliadau 1997 er mwyn adlewyrchu diwygiadau a wnaed gan Benderfyniad y Comisiwn 96/350/EEC.
Mae paragraff 13 yn diwygio Atodlen 4 i Reoliadau 1997 gan ehangu'r wybodaeth y mae'n rhaid ei chynnwys yn y planiau gweithredol y mae'n rhaid i gyhyrchwyr a gweithredwyr cynllun eu cyflwyno i'r Asiantaeth briodol.
Mae paragraff 14 yn diwygio Atodlen 5 i Reoliadau 1997 gan leihau'r cyfnod y gall apeliadau cael eu gwneud o fewn o 6 mis i 2 fis.
Mae paragraff 15 yn diwygio Atodlen 6 i Reoliadau 1997 gan ehangu'r wybodaeth y mae'n rhaid ei chynnwys yn y dystysgrif gydymffurfio sy'n ofynnol o dan reoliad 23 o Reoliadau 1997.
Mae paragraff 16 yn diwygio Atodlen 7 i Reoliadau 1997 gan ei gwneud hi'n ofynnol i wybodaeth ynglŷn ag ail-broseswyr achrededig ac allforwyr gael ei gosod ar y gofrestr gyhoeddus.
Mae paragraff 17 yn diwygio Atodlen 9 i Reoliadau 1997 gan symleiddio'r trefniadau ar gyfer newidiadau yng nghanol blwyddyn sy'n effeithio ar grwpiau o gwmniau sydd â Rhwymedigaethau o dan y Rheoliadau.
Mae paragraff 18 yn dileu Atodlen 10 sy'n rhestru rhwymedigaethau adennill ac ailgylchu'r Deyrnas Gyfunol o dan y Gyfarwyddeb.
Mae Asesiad o Effaith y Rheoliadau wedi ei baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth Is-Adran yr Amgylchedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.