2003 Rhif 3237 (Cy.317)
ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 537A(1), (2) a (4) a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 19961 ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru2:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dirymu1.

(1)

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2003.

(2)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

(3)

Dirymir Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 20033.

Dehongli2.

Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Cofrestr” (“Register”) yw'r gofrestr ddisgyblion a gedwir o dan adran 434 o Ddeddf 1996 ac yn unol â Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 19954);

ystyr “cyfeirnod gweithgaredd dysgu” (“learning activity reference”) yw cyfuniad o rifau sydd ynghyd â llythyren yn cael eu dyrannu i gwrs astudiaeth neu weithgaredd dysgu arall ac sy'n benodol i'r cwrs hwnnw neu'r gweithgaredd dysgu hwnnw, ac a benderfynwyd gan Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant;

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;

ystyr “disgybl chweched dosbarth” (“sixth form pupil”) yw disgybl y caiff Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant dalu grant mewn perthynas â'i addysg i'r awdurdod addysg lleol o dan adran 36 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 20005;

ystyr “dyddiad gwahardd parhaol” (“permanent exclusion date”) yw'r dyddiad y caiff enw disgybl sydd wedi'i wahardd yn barhaol ei ddileu o'r gofrestr;

mae i “plentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol” yr ystyr a roddir i “child looked after by a local authority” gan adran 22(1) o Ddeddf Plant 19896;

ystyr “Rhif unigryw disgybl” (“unique pupil number”) yw cyfuniad o rifau sydd ynghyd â llythyren neu lythrennau yn cael eu dyrannu i ddisgybl ac sy'n benodol i'r disgybl hwnnw, drwy ddefnyddio fformiwla a benderfynwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “wedi'i wahardd yn barhaol” (“permanently excluded”) mewn perthynas â disgybl yw disgybl sydd wedi'i wahardd yn barhaol o'r ysgol am resymau disgyblu;ac

mae i “ysgol arbennig” yr ystyr a roddir i “special school” gan adran 337 o Ddeddf 19967.

Ysgolion a gynhelir gan awdurdodau addysg lleol yn darparu gwybodaeth i'w hawdurdodau addysg lleol3.

O fewn 14 diwrnod ar ôl cael cais yn ysgrifenedig gan yr awdurdod addysg lleol y cynhelir ysgol ganddo, rhaid i'r corff llywodraethu roi i'r awdurdod y cyfryw wybodaeth y cyfeirir ati yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn ag y gofynnir amdani.

Personau Rhagnodedig4.

(1)

At ddibenion adran 537A(4) o Ddeddf 1996, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhagnodi'r personau canlynol fel personau y caiff ddarparu gwybodaeth am ddisgyblion unigol iddynt—

(a)

unrhyw berson y cyfeirir ato ym mharagraff (2) isod; a

(b)

unrhyw berson sy'n perthyn i'r categori y cyfeirir ato ym mharagraff (3) isod.

(2)

Y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a) uchod yw —

(a)

yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol y cofrestrir neu y cofrestrwyd y disgybl sy'n destun yr wybodaeth honno ynddi, neu, yn achos ysgol na chynhelir mohoni felly, awdurdod addysg lleol yr ardal y lleolir yr ysgol ynddi, y cofrestrir neu y cofrestrwyd y disgybl sy'n destun yr wybodaeth honno ynddi;

(b)

Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant;

(c)

Uned Ddata Llywodraeth Leol Cymru; ac

(ch)

y cwmnïau Gyrfa Cymru a sefydlwyd i ddarparu gwasanaethau gyrfaoedd yng Nghymru o dan adrannau 2, 8, 9 a 10 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 19738.

(3)

Y categori y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b) uchod yw'r categori o bersonau sy'n ymchwilio i gyflawniadau addysgol disgyblion ac y mae'n ofynnol iddynt gael gwybodaeth am ddisgyblion unigol at y diben hwnnw.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19989.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

YR ATODLENDARPARU GWYBODAETH AM DDISGYBLION UNIGOL

Rheoliad 3

RHAN 1

Pob Disgybl

1.

Yr wybodaeth ganlynol am y disgybl —

(a)

Rhif unigryw cyfredol y disgybl, ac os bu gan yr ysgol rif unigryw disgybl blaenorol ar gyfer y disgybl hwnnw, y Rhif blaenorol;

(b)

cyfenw;

(c)

enw cyntaf y disgybl, neu bob enw cyntaf os oes mwy nag un;

(ch)

enw canol y disgybl, neu bob enw canol os oes mwy nag un;

(d)

rhyw;

(dd)

dyddiad geni;

(e)

grŵp ethnig;

(f)

hunaniaeth genedlaethol;

(ff)

dyddiad derbyn y disgybl i'r ysgol; a

(g)

grŵp blwyddyn y Cwricwlwm Cenedlaethol yr addysgir y disgybl ynddo.

2.

Cod post y cartref lle mae'r disgybl fel arfer yn preswylio.

3.

A yw'r wybodaeth am grŵp ethnig y disgybl a ddarparwyd yn rhinwedd yr Atodlen hon yn cael ei darparu gan —

(a)

y disgybl;

(b)

rhiant;

(c)

yr ysgol;

(ch)

cyn ysgol; neu

(d)

unrhyw ffynhonnell arall.

4.

Pa mor rhugl yw'r disgybl yn y Gymraeg.

5.

A yw'r disgybl yn siarad Cymraeg yn y cartref ac, os felly, gyda phwy.

6.

A yw'r disgybl yn astudio'r Gymraeg fel iaith gyntaf neu fel ail iaith.

7.

A gafodd yr wybodaeth am lefel rhugledd y disgybl yn y Gymraeg a faint o Gymraeg y mae'r disgybl yn ei siarad gartref a ddarparwyd yn rhinwedd y Rhan hon ei darparu gan —

(a)

y disgybl;

(b)

rhiant;

(c)

yr ysgol;

(ch)

cyn ysgol; neu

(d)

unrhyw ffynhonnell arall.

8.

A yw'r disgybl yn astudio unrhyw bwnc, heblaw'r Gymraeg fel iaith gyntaf neu fel ail iaith, drwy gyfrwng y Gymraeg.

9.

A yw'r disgybl, yn unol ag adrannau 512(3) a 512ZB o Ddeddf 199610, wedi gwneud cais ac wedi'i gael yn gymwys i gael prydau am ddim yn yr ysgol.

10.

A yw'r disgybl, yn unol ag adrannau 512(1) a 512ZB o Ddeddf 1996, wedi gwneud cais ac wedi'i gael yn gymwys am laeth am ddim yn yr ysgol.

11.

A oes gan y disgybl anghenion addysgol arbennig ac, os felly, cadarhnad o —

(a)

brif angen y disgybl ac unrhyw angen eilaidd a nodwyd; a

(b)

y math o ddarpariaeth AAA sy'n rhan o'r ymagwedd raddedig a fabwysiadwyd yn unol â “Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru”11, a gyhoeddwyd o dan adran 313 o Ddeddf 1996 ac a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2002, sy'n cael ei wneud i'r disgybl hwnnw.

12.

Lle mae'r disgybl, hyd eithaf gwybodaeth y corff llywodraethu, yn blentyn sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol, y ffaith honno ac enw'r awdurdod lleol hwnnw.

13.

A yw'r disgybl, hyd eithaf gwybodaeth y corff llywodraethu, wedi bod yn blentyn sy'n derbyn gofal yr awdurdod lleol tra bu ar Gofrestr yr ysgol, ac, os felly, enw'r awdurdod lleol yr oedd y disgybl yn derbyn gofal ganddo yn fwyaf diweddar.

14.

Yn achos ysgol arbennig nad yw'n ysgol arbennig a sefydlwyd mewn ysbyty a yw'r disgybl yn byrddio yn yr ysgol ac os felly, a yw'r disgybl yn byrddio am saith noson yr wythnos neu am lai na saith noson yr wythnos.

15.

A yw'r disgybl yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol neu fwy nag un ysgol, a lle mae'r disgybl wedi'i gofrestru fel disgybl mewn mwy nag un ysgol, a yw'r wybodaeth yn cael ei llunio gan yr ysgol y mae'r disgybl yn mynd iddi am y rhan fwyaf o'i amser.

16.

A yw'r disgybl yn ddisgybl rhan-amser, ac at ddibenion y paragraff hwn, ystyr “rhan-amser” yw bod y disgybl yn mynychu llai na deg sesiwn ysgol mewn unrhyw wythnos pan fydd yr ysgol yn cyfarfod.

17.

Yn achos ysgol nad yw'n ysgol arbennig, a yw'r disgybl yn cael addysg —

(a)

mewn dosbarth meithrin;

(b)

mewn dosbarth arbennig a ddynodwyd felly gan yr awdurdod addysg lleol neu a drefnwyd felly gan yr ysgol; neu

(c)

mewn dosbarth prif ffrwd nad yw wedi'i ddynodi yn ddosbarth arbennig gan yr awdurdod addysg lleol neu a drefnwyd fel dosbarth arbennig gan yr ysgol.

RHAN 2

Disgyblion Chweched Dosbarth

1.

Yr wybodaeth ganlynol am bob disgybl chweched dosbarth yn yr ysgol —

(a)

a yw'r disgybl yn astudio tuag at Gymhwyster Bagloriaeth Cymru; a

(b)

teitl pob cwrs neu weithgaredd dysgu arall y mae'r disgybl yn ei astudio.

2.

Mewn perthynas â phob cwrs neu weithgaredd dysgu arall y mae'r disbygl yn ei astudio —

(a)

cyfeirnod y gweithgaredd dysgu;

(b)

y dyddiad y ddechreuodd y disgybl y gweithgaredd dysgu;

(c)

y dyddiad y disgwylir i'r gweithgaredd dysgu ddod i ben;

(ch)

enw darparwr y gweithgaredd dysgu;

(d)

a ddarperir y gweithgaredd dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, drwy gyfrwng y Saesneg, neu'n ddwyieithog drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg; ac

(dd)

a oes gan y disgybl anhawster dysgu neu anabledd, neu'r ddau, ac os felly a yw'r disgybl yn ymgymryd â gweithgaredd dysgu ar wahân neu weithgaredd dysgu prif ffrwd.

RHAN 3

Disgyblion sydd wedi'u Gwahardd

1.

Yr wybodaeth ganlynol am bob disgybl sydd wedi'i wahardd yn barhaol o'r ysgol ac yr oedd ei ddyddiad gwahardd parhaol yn y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Awst cyn y dyddiad y gwneir y cais am wybodaeth arno —

(a)

Rhif unigryw disgybl cyfredol;

(b)

cyfenw;

(c)

enw cyntaf y disgybl, neu bob enw cyntaf os oes mwy nag un;

(ch)

enw canol y disgybl, neu bob enw canol os oes mwy nag un;

(d)

rhyw;

(dd)

dyddiad geni; ac

(e)

y dyddiad y dechreuodd y gwaharddiad parhaol.

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Os bydd awdurdod addysg lleol yn anfon cais ysgrifenedig at gorff llywodraethu unrhyw ysgol a gynhelir gan yr awdurdod, mae'r Rheoliadu hyn yn ei gwneud yn ofynnol i'r corff llywodraethu roi gwybodaeth y cyfeirir ati yn yr Atodlen mewn perthynas â disgyblion yn yr ysgol i'r awdurdod. Rhaid i'r corff lywodraethu roi'r gwybodaeth i'r awdurdod o fewn pedwar diwrnod ar ddeg.

Mae Rheoliad 4 yn rhagnodi yn ogystal i ba bersonau y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru roi gwybodaeth am ddisgyblion unigol o dan adran 537A(4) o Ddeddf Addysg 1996.