Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2003
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso1.
(1)
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2003, a deuant i rym ar 12 Rhagfyr 2003.
(2)
(3)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio rheoliad 2 o'r prif Reoliadau2.
(1)
Mae Rheoliad 2 o'r prif Reoliadau (dehongli) yn cael ei ddiwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2)
““Local Health Board” has the meaning assigned to it by section 16BA of the Act3;”.
(3)
“(1C)
In the application of these Regulations in relation to Wales “Health Authority” shall, in each place where these words occur, have effect as if there were substituted in the words “Local Health Board”.”
Diwygio rheoliad 12 o'r prif Reoliadau3.
Yn rheoliad 12 o'r prif Reoliadau (penderfynu ceisiadau o ran lleoliadau a reolir), yn is-baragraff 1(d) yn lle “FHSA”, ym mhob man lle mae'r talfyriad hwn yn digwydd, rhodder y geiriau “Local Health Board”.
Diwygio rheoliad 13 o'r prif Reoliadau4.
Yn rheoliad 13 o'r prif Reoliadau (apelau mewn cysylltiad â phenderfyniadau o dan reoliad 12), yn is-baragraff 2(a) yn lle “FHSA”, ym mhob man lle mae'r talfyriad hwn yn digwydd, rhodder y geiriau “Local Health Board”.
Diwygio rheoliad 18B o'r prif Rheoliadau5.
Yn rheoliad 18B o'r prif Reoliadau (y cynllun gwobrwyo), ym mharagraff (1)—
(a)
yn is-baragraff (i)—
(i)
yn lle “immediately informed” rhowch “informed”, a
(ii)
ar ôl y geiriau “of this action” mewnosodwch “as soon as practicable”;
(b)
yn is-baragraff (ii)—
(i)
ar ôl “but” rhowch “had reason to believe at that time or”, a
(ii)
yn lle “within the period of 14 days beginning with the date the order was presented” rhowch “as soon as practicable”; ac
(c)
ar ddiwedd y geiriau cloi, ychwanegwch “which has thereafter established that the order referred to in this paragraph was not a genuine order for the person named on the prescription form”.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1992 (O.S. 1992/662) (“y prif Reoliadau”) sy'n llywodraethu'r trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.
Mae Rheoliad 2 o'r prif Reoliadau yn cael ei ddiwygio fel y bydd cyfeiriad at “Health Authority” yn cael ei drin fel cyfeiriad at “Local Health Board”.
Diwygir Rheoliad 12 a 13 fel bod cyfeiriadau at “Local Health Board” yn cael eu rhoi yn lle “FHSA”.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau hefyd i Reoliad 18B o'r prif Reoliadau (y cynllun gwobrwyo).