Dehongli2

1

Yn y Rheoliadau hyn —

  • ystyr “ceidwad” (“keeper”) yw'r person sy'n cadw, neu sy'n meddu ar, neu sydd â rheolaeth dros, aderyn;

  • ystyr “CITES” (“CITES”) yw'r Confensiwn ar y Fasnach Ryngwladol mewn Rhywogaethau Ffawna a Fflora Gwyllt mewn Perygl3;

  • ystyr “marc CITES” (“CITES marking”) yw marc sy'n bodloni'r gofynion sydd wedi'u nodi yn rheoliad 5(3);

  • ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981;

  • ystyr “modrwy” (“ring”) yw unrhyw fodrwy neu fand ar gyfer modrwyo aderyn.

2

Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at aderyn y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo yn gyfeiriad at unrhyw aderyn sydd wedi'i gynnwys yn Atodlen 4 i'r Ddeddf ac y mae unrhyw berson yn ei gadw, yn meddu arno neu'n ei reoli.