(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae adran 7(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (“y Ddeddf”) yn darparu bod person sy'n cadw, neu'n meddu ar neu sydd â rheolaeth dros, unrhyw aderyn sydd wedi'i gynnwys yn Atodlen 4 o'r Ddeddf, nad yw wedi'i gofrestru ac nad yw wedi'i fodrwyo na'i farcio yn unol â rheoliadau a wnaed o dan yr adran honno, yn euog o dramgwydd.

Mae'r pŵer i wneud rheoliadau o dan adran 7(1) o'r Ddeddf mewn perthynas â Chymru wedi'i freinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”).

Mae Atodlen 4 i'r Ddeddf wedi'i diwygio gan Orchymyn Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Amrywio Atodlen 4) 1994 (O.S. 1994/1151).

Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi'r gofynion sy'n gymwys i Gymru o ran cofrestru, modrwyo a marcio at ddibenion adran 7(1) o'r Ddeddf. Maent yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Cofrestru a Modrwyo Adar Caeth Penodol) 1982 (O.S. 1982/1221) i'r graddau y mae'r Rheoliadau hynny yn gymwys i Gymru.

Mae Rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol gadw cofrestr o adar at ddibenion adran 7(1) o'r Ddeddf. Mae'n darparu hefyd bod rhaid i geidwad, neu ddarpar geidwad, unrhyw aderyn sydd wedi'i gynnwys yn Atodlen 4 i'r Ddeddf wneud cais am gofrestriad ar ffurflen a geir oddi wrth y Cynulliad Cenedlaethol. Ni chaiff y Cynulliad Cenedlaethol gofrestru'r aderyn oni chaiff ei fodloni bod yr aderyn wedi'i fodrwyo neu wedi'i farcio yn unol â rheoliad 5.

Mae Rheoliad 4 yn nodi'r amgylchiadau sy'n peri bod cofrestriad yn cael ei derfynu.

Mae Rheoliad 5 yn darparu ar gyfer modrwyo neu farcio adar y mae'r Rheoliadau yn gymwys iddynt.

Mae Rheoliad 5(2) yn darparu bod rhaid modrwyo aderyn â modrwy a geir oddi wrth y Cynulliad Cenedlaethol, a bod rhaid i'r person sy'n gwneud y modrwyo lenwi datganiad modrwyo a'i ddychwelyd i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae Rheoliad 5(3) yn darparu dull amgen y caniateir ei ddefnyddio, sef marcio aderyn yn unol â'r Rheoliadau Ewropeaidd sy'n gweithredu gofynion paragraff 7 o Erthygl VI o'r Confensiwn ar y Fasnach Ryngwladol mewn Rhywogaethau Ffawna a Fflora Gwyllt mewn Perygl (“CITES”). Y Rheoliad Ewropeaidd sydd ar hyn o bryd yn gweithredu'r ddarpariaeth berthnasol yn CITES yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1808/2001 dyddiedig 30 Awst 2001 sy'n gosod rheolau manwl ynglŷn â gweithredu Rheoliad y Cyngor 338/97 ar warchod rhywogaethau ffawna a fflora gwyllt drwy reoleiddio'r fasnach ynddynt (OJ L 250/1, 19.9.2001).

Mae Rheoliad 6 yn dirymu Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Cofrestru a Modrwyo Adar Caeth Penodol) 1982 (“Rheoliadau 1982”) mewn perthynas â Chymru. Mae'n gwneud darpariaethau trosiannol hefyd, sy'n darparu, os bydd camau wedi'u cymryd gan unrhyw berson, cyn i Reoliadau 1982 gael eu dirymu, o dan unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hynny sy'n cael ei hailddeddfu yn y Rheoliadau hyn, mae'r camau hynny i'w trin fel petaent wedi'u cymryd o dan y Rheoliadau hyn.