ATODLENSAFONAU YSGOL ANNIBYNNOL
Sut i ymdrin â chwynion7
Mae'r ffordd y mae'r ysgol yn ymdrin â chwynion yn bodloni'r safon os oes ganddi drefn gwyno sy'n —
a
ysgrifenedig;
b
ar gael mewn dull priodol os bydd y disgyblion, rhieni'r disgyblion a darpar ddisgyblion yn yr ysgol yn gofyn amdani;
c
gosod amserlenni clir o ran rheoli cwynion;
ch
rhoi cyfle i gwynion gael eu gwneud a'u hystyried yn anffurfiol;
d
os na fydd y rhieni'n fodlon â'r ymateb a wnaed yn unol â pharagraff (ch) neu os ydynt yn dymuno gwneud cwyn ffurfiol, sefydlu trefn i'r gŵ yn gael ei gwneud yn ysgrifenedig;
dd
os nad yw'r rhieni'n fodlon â'r ymateb i'r gŵ yn a wnaed yn unol â pharagraff (d), darparu ar gyfer cynnal gwrandawiad o flaen panel a benodwyd gan y perchennog, neu ar ei ran, wedi'i lunio o dri o bobl o leiaf nad oedd a wnelont yn uniongyrchol â'r materion sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r gŵ yn;
e
mynnu pan fo panel yn gwrando ar gwyn, y bydd un person ar y panel sy'n annibynnol ar y sawl sy'n rheoli a rhedeg yr ysgol;
f
darparu bod y rhieni yn cael bod yn bresennol yn y gwrandawiad gan y panel os dyna eu dymuniad a'u bod yn cael mynd â rhywun gyda hwy;
ff
darparu bod y panel yn penderfynu ar ei gasgliadau a'i argymhellion ac y bydd yn pennu bod y sawl sy'n cwyno, y perchennog, y pennaeth ac, os yw'n berthnasol, y sawl y cwynwyd amdano, yn cael copi yr un o unrhyw gasgliadau ac argymhellion;
g
darparu bod cofnodion ysgrifenedig yn cael eu cadw am bob cwyn, boed yn gŵ yn a gafodd ei datrys yn y cam cychwynnol, neu'n gŵ yn yr aethpwyd â hi i wrandawiad gan banel;
ng
darparu, yn ddarostyngedig i baragraff 6(2)(g) o'r Atodlen hon, bod gohebiaeth, datganiadau a chofnodion ynghylch cwynion yn cael eu cadw'n gyfrinachol a heblaw bod y Cynulliad Cenedlaethol neu gorff sy'n gwneud arolygiad o dan adran 163 o Ddeddf 2002, yn gofyn am gael gweld unrhyw ddogfennau sy'n ymwneud â'r gŵ yn; a
h
os bydd yr ysgol yn darparu llety byrddio, cydymffurfio â Safon 5 o'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Ysgolion Byrddio 2003 neu, os yw'n gymwys, Safon 4 o'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Ysgolion Arbennig Preswyl 2003.