ATODLENSAFONAU YSGOL ANNIBYNNOL
Darparu gwybodaeth6
1
Mae'r ysgol yn bodloni'r safon o ran darparu gwybodaeth os yw'r gofynion ym mharagraffau (2) i (9) wedi eu bodloni.
2
Yn ddarostyngedig i is-baragraff (10), rhaid i'r ysgol roi i'r rhieni, ac os gwneir cais, i'r Prif Arolygydd, i'r Cynulliad Cenedlaethol, neu i gorff sydd wedi ei gymeradwyo o dan adran 163(1)(b) o Ddeddf 2002 —
a
cyfeiriad, cyfeiriad e-bost a Rhif ffôn yr ysgol, ac enw'r pennaeth;
b
naill ai—
i
pan fydd y perchennog yn unigolyn, ei enw llawn, ei gyfeiriad preswyl arferol a chyfeiriad e-bost perthnasol a Rhif ffôn, neu
ii
pan fydd y perchennog yn gorfforaeth, yn ffyrm neu'n gorff o bersonau Albanaidd, cyfeiriad a Rhif ffôn ei brif swyddfa neu'i brif swyddfa;
c
os oes gan yr ysgol fwrdd llywodraethwyr, manylion cysylltu Cadeirydd y corff hwnnw;
ch
datganiad o anian ac amcanion yr ysgol (gan gynnwys unrhyw anian crefyddol);
d
manylion polisi a threfniadau'r ysgol o ran derbyn disgyblion, disgyblaeth a gwahardd disgyblion;
dd
manylion y ddarpariaeth o ran addysg a llesiant disgyblion sydd â datganiadau a disgyblion y mae'r Gymraeg neu'r Saesneg yn ieithoedd ychwanegol iddynt;
e
manylion y polisïau a baratowyd o dan baragraff 1(2) o'r Atodlen hon;
f
manylion y polisïau a baratowyd o dan baragraff 3(2) o'r Atodlen hon;
ff
manylion perfformiad academaidd yr ysgol, gan gynnwys canlyniadau unrhyw arholiadau cyhoeddus;
g
manylion y drefn gwyno wedi eu nodi yn unol â pharagraff 7 o'r Atodlen hon, nifer y cwynion a gofrestrwyd o dan y drefn ffurfiol yn ystod y flwyddyn ysgol flaenorol; ac
ng
nifer y staff sy'n cael eu cyflogi yn yr ysgol, gan gynnwys staff dros dro, a chrynodeb o'u cymwysterau.
3
Yn sgil arolygiad a wnaed o dan adran 163(1) o Ddeddf 2002, mae'n rhaid i'r ysgol anfon y canlynol at rieni pob disgybl a gofrestrwyd, erbyn dyddiad a bennir gan y corff a gyflawnodd yr arolygiad —
a
crynodeb o'r adroddiad; neu
b
os nad oes crynodeb o'r adroddiad wedi'i baratoi, addroddiad llawn.
4
Os anfonwyd crynodeb o'r adroddiad yn unol â pharagraff 3(a), rhaid i'r ysgol wneud trefniadau i rieni gael gweld yr adroddiad llawn os byddant yn gofyn amdano.
5
Rhaid i'r ysgol roi adroddiad ysgrifenedig i rieni pob plentyn a gofrestrir am ei ddatblygiad a'i gyraeddiadau ym mhob prif bwnc a ddysgir.
6
Rhaid i'r ysgol roi i unrhyw gorff sy'n gwneud arolygiad o dan adran 163 o Ddeddf 2002—
a
unrhyw wybodaeth y gofynnir amdani yn rhesymol mewn cysylltiad ag arolygiad ac sydd ei hangen at ddibenion yr arolygiad hwnnw; a
b
caniatâd i weld y gofrestr dderbyn, ac unrhyw gofrestr bresenoldeb, a gynhelir yn unol â Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 199514.
7
Os yw disgybl sy'n cael ei ariannu yn gyfan gwbl neu'n rhannol gan yr awdurdod lleol wedi ei gofrestru yn yr ysgol, rhaid rhoi cyfrif blynyddol wedi ei archwilio o'r incwm a gafwyd a'r gwariant a wnaed gan yr ysgol i'r Awdurdod Addysg Lleol ac i'r Cynulliad Cenedlaethol os gofynnir amdano.
8
Os oes disgybl sydd â datganiad wedi ei gofrestru yn yr ysgol, rhaid i'r ysgol roi i'r awdurdod addysg lleol yr wybodaeth y gellid yn rhesymol ofyn amdani at ddibenion adolygiad blynyddol o'r datganiad.
9
Rhaid darparu copi o'r asesiad risgiau y cyfeirir ato ym mharagraff 3(5)(a) o'r Atodlen hon os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdano.
10
Mewn perthynas â pharagraffau (e) i (ng) o is-baragraff (2), ar yr amod bod yr ysgol yn sicrhau bod rhieni disgyblion a darpar ddisygblon yn ymwybodol bod yr wybodaeth honno ar gael, nid oes rhaid iddi ei darparu iddynt ond os ydynt yn gofyn amdani.