ATODLENSAFONAU YSGOL ANNIBYNNOL
Tir, adeiladau a llety byrddio ysgolion5
Mae tir, adeiladau a llety byrddio yn bodloni'r safon —
a
os yw'r cyflenwad dŵ r yn bodloni gofynion Rheoliadau 1999;
b
os oes system draenio ddigonol at ddibenion hylendid ac i gael gwared ar ddŵ r gwastraff a dŵ r wyneb;
c
os yw pob strwythur sy'n dal pwysau yn bodloni Rheoliadau 1999;
ch
os oes gan yr ysgol drefniadau digonol o ran diogelwch ar ei thir ac yn ei hadeiladau;
d
os yw unrhyw dir neu adeiladau a ddefnyddir at ddibenion heblaw gwaith yr ysgol, wedi eu trefnu i sicrhau bod iechyd, diogelwch a llesiant y disgyblion wedi eu diogelu ac i sicrhau na thorrir ar draws eu haddysg gan bobl eraill yn defnyddio'r tir hwnnw neu'r adeiladau hynny;
dd
os yw adeiladau'r ysgol yn darparu lloches resymol rhag y glaw, yr eira, y gwynt, a lleithder o'r ddaear;
e
os oes modd i bob disgybl, yn enwedig y rhai sydd ag anghenion arbennig, ymadael â'r tir a'r adeiladau yn ddiogel mewn argyfwng;
f
os oes modd i bob disgybl, gan gynnwys y rhai sydd ag anghenion arbennig, fynd i mewn i'r ysgol ac ymadael â hi'n ddiogel ac yn gyfforddus12;
ff
os nad yw'r tir a'r adeiladau wedi eu condemnio gan yr Awdurdod Iechyd Amgylcheddol;
g
os yw'r ystafelloedd dosbarth yn briodol o ran maint ar gyfer nifer, oedran ac anghenion (gan gynnwys unrhyw anghenion arbennig) y disgyblion i ganiatáu addysgu effeithiol ac nad ydynt yn berygl o ran iechyd neu ddiogelwch.
ng
os oes digon o ystafelloedd ymolchi i'r staff a'r disgyblion, gan gynnwys cyfleusterau i ddisgyblion sydd ag anghenion arbennig gan roi ysytyriaeth i Reoliadau 1999;
h
os oes cyfleusterau priodol yn unol â Rheoliadau 1999 i ddisgyblion sy'n sâl;
i
os oes cyfleusterau digonol ar gyfer paratoi, gweini, bwyta ac yfed bwyd a diod yn hylan yn y mannau lle gweinir bwyd a diod;
j
os yw ystafelloedd dosbarth a rhannau eraill o'r ysgol yn cael eu cadw'n daclus, yn lân ac yn hylan;
l
os yw'r ynysu rhag sŵ n a'r acwsteg yn galluogi addysgu a chyfathrebu effeithiol;
ll
os yw'r trefniadau goleuo, gwresogi ac awyru yn yr ystafelloedd dosbarth ac yn rhannau eraill yr ysgol yn foddhaol yn unol â Rheoliadau 1999;
m
os yw'r gwaith peintio ac addurno o safon foddhaol ac wedi ei gadw a'i gynnal yn ddigon da;
n
os yw'r dodrefn a'r ffitiadau wedi eu dylunio i fod yn addas ar gyfer oedran ac anghenion pob disgybl (gan gynnwys unrhyw anghenion arbennig) a gofrestrir yn yr ysgol;
o
os oes lloriau priodol a hwythau mewn cyflwr da;
p
os oes trefniadau priodol ar gyfer darparu lle yn yr awyr agored i'r plant chwarae yn ddiogel;
ph
lle y darperir llety byrddio, os yw'r llety wedi ei ddarparu drwy ystyried Safonau 40-52 o'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Ysgolion Byrddio 2003 neu os yw'n briodol, Safonau 23-26 o'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Ysgolion Arbennig Preswyl; ac
r
Os yw'r tir a'r adeiladau yn cydymffurfio â gofynion Rheoliadau Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd (Cyfnodau Rhagnodedig ar gyfer Hygyrchedd, Strategaethau a Chynlluniau Ysgolion) (Cymru) 200313.