ATODLENSAFONAU YSGOL ANNIBYNNOL
Addasrwydd perchnogion a'r staff4
Mae'r perchnogion a'r staff yn addas ac yn bodloni'r safon —
a
os yw gwiriad yn ôl cofnodion y Swyddfa Cofnodion Troseddol yn cadarnhau bod y perchennog yn addas i weithio gyda phlant; a dylai'r gwiriad hwnnw fod yn wiriad lefel uwch os yw'r perchennog, wrth gyflawni ei ddyletswyddau rheolaidd, yn darparu gofal am blant dan 18 oed, neu yn eu hyfforddi, neu eu goruchwylio, neu os yw'n gofalu amdanynt ar ei ben ei hun;
b
os, cyn cadarnhau eu bod wedi eu penodi, bydd aelodau o staff yr ysgol yn cael eu gwirio gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol i gadarnhau eu bod yn addas i weithio gyda phlant; a dylai'r gwiriadau hynny fod ar lefel uwch os yw'r staff, fel rhan o'u dyletswyddau rheolaidd, yn darparu gofal am blant dan 18 oed, neu yn eu hyfforddi, neu eu goruchwylio, neu os yw aelod o'r staff yn gofalu amdanynt ar ei ben ei hun;
c
os bydd aelodau o'r staff, cyn cadarnhau eu bod wedi eu penodi, yn cael eu gwirio i gadarnhau pwy ydynt ac a ydynt yn ffit o ran iechyd, eu gwirio i gadarnhau hanes eu cyflogaeth flaenorol, eu tystlythyrau cymeriad, ac, os yw'n briodol, eu cymwysterau a'u tystlythyrau proffesiynol; a rhaid i'r wybodaeth honno gael ei hystyried wrth benderfynu a fydd penodiad yn cael ei gadarnhau ai peidio. Mae cylchlythyr 34/02 y Cynulliad Cenedlaethol “Amddiffyn Plant: Atal Pobl Anaddas rhag Gweithio gyda Phlant a Phobl Ifanc” yn rhoi cyngor ar yr arferion gorau o ran gwiriadau cyn penodi;
ch
os bydd aelodau o'r staff, pan fyddant yn darparu gofal am blant, yn eu hyfforddi neu'n gofalu amdanynt mewn llety byrddio, yn cydymffurfio â Safon 38 o'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Ysgolion Byrddio 2003 neu, os yw'n briodol, Safon 27 o'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Ysgolion Arbennig Preswyl 2003; a
d
os nad yw'r perchennog na'r un aelod o'r staff yn gwneud gwaith, neu'n bwriadu gwneud gwaith, sy'n torri cyfarwyddyd o dan adran 142(1) o Ddeddf 2002.