- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
3.—(1) Mae llesiant, iechyd a diogelwch disgyblion yn yr ysgol yn bodloni'r safon os bodlonir y gofynion yn is-baragraffau (2) i (9).
(2) Rhaid i'r ysgol lunio polisi ysgrifenedig, a'i weithredu'n effeithiol, er mwyn —
(a)atal bwlio, drwy ystyried canllawiau cylchlythyr 23/03 y Cynulliad Cenedlaethol “Parchu eraill, canllawiau gwrth-fwlio”;
(b)diogelu a hybu llesiant y plant sy'n ddisgyblion yn yr ysgol, gan gydymffurfio â chylchlythyr 52/95 y Swyddfa Gymreig “Protecting Children from Abuse: the Role of the Education Service”;
(c)diogelu a hybu iechyd a diogelwch disgyblion sy'n ymgymryd â gweithgareddau y tu allan i'r ysgol, drwy ystyried cylchlythyr y Cynulliad Cenedlaethol “Iechyd 2/99 a diogelwch disgyblion ar ymweliadau ysgol: Arweiniad ac Arferion Da”; a
(ch)hybu ymddygiad da ymhlith y disgyblion a disgrifio'r camau sydd i'w cymryd os bydd disgybl yn camymddwyn.
(3) Os bydd ysgol yn darparu llety byrddio, wrth ddarparu'r llety hwnnw rhaid ystyried y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Ysgolion Byrddio 2003(1) neu, os yw'n briodol, y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Ysgolion Arbennig Preswyl 2003(2).
(4) Rhaid i'r ysgol ystyried unrhyw ganllawiau gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfrifoldebau a phwerau ysgolion ym maes iechyd a diogelwch.
(5) Rhaid i'r ysgol fod yn foddhaol o ran diogelwch rhag tân, a bod hyn wedi'i gydnabod yn —
(a)asesiad risgiau'r ysgol o dan reoliad 3 o Reoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999 (3) i'r graddau y mae'n berthnasol i rwymedigaethau o dan Ran II o Reoliadau Rhagofalon Tân (y Gweithle) 1997(4)); a
(b)unrhyw adroddiad a roddwyd gan yr Awdurdod Tân.
(6) Rhaid bod gan yr ysgol bolisi Cymorth Cyntaf boddhaol a rhaid iddi ei roi ar waith yn effeithiol.
(7) Rhaid trefnu bod staff yr ysgol yn sicrhau bod y disgyblion yn cael eu goruchwylio yn briodol ac yn effeithiol.
(8) Rhaid i'r ysgol gadw cofnodion ysgrifenedig o'r cosbau a roddwyd i ddisgyblion am dramgwyddau disgyblaeth difrifol.
(9) Rhaid i'r ysgol gadw cofrestr derbyn a chofrestr presenoldeb yn unol â Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 1995 (5).
ISBN 0 7504 3077 X ar gael ar http://www.wales.gov.uk/subisocialpolicycarestandards/content/regulationsfinal-e.htm.
ISBN 0 7504 3076 1 ar gael ar http://www.wales.gov.uk/subisocialpolicycarestandards/content/regulationsfinal-e.htm.
O.S. 1997/1840, a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/1877.
O.S. 1995/2089, a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/2624.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: