ATODLENSAFONAU YSGOL ANNIBYNNOL
Ansawdd yr addysg a ddarperir1
1
Mae ansawdd yr addysg a ddarperir gan yr ysgol yn bodloni'r safon os bodlonir y gofynion yn is-baragraffau (2) i (5).
2
Rhaid i'r ysgol lunio polisi ysgrifenedig ar y cwricwlwm, ei ategu â chynlluniau a chynlluniau gwaith priodol, a'i weithredu'n effeithiol; bydd y polisi'n darparu ar gyfer y canlynol —
a
addysg llawnamser dan oruchwyliaeth i bob disgybl o oedran ysgol gorfodol, ac sy'n rhoi profiad i'r disgyblion yn y meysydd a ganlyn: addysg ieithyddol, fathemetegol, wyddonol, dechnolegol, ddynol a chymdeithasol, addysg gorfforol, ac addysg esthetaidd a chreadigol;
b
deunydd addysgol sy'n briodol i oedran a gallu'r disgyblion, gan gynnwys y disgyblion sydd â datganiad;
c
bod disgyblion yn datblygu medrau llefaru a gwrando, a medrau llythrennedd a Rhif edd;
ch
os iaith heblaw'r Gymraeg neu'r Saesneg yw prif iaith yr addysgu, gwersi Cymraeg ysgrifenedig a llafar, neu Saesneg ysgrifenedig a llafar, ond na fydd y gofyniad hwn yn gymwys i ysgol sy'n darparu addysg i ddisgyblion sy'n preswylio yng Nghymru dros dro ac sy'n dilyn cwricwlwm gwlad arall;
d
os bydd gan ddisgybl ddatganiad, addysg sy'n bodloni gofynion y datganiad hwnnw;
dd
addysg bersonol a chymdeithasol ac addysg iechyd sy'n gweddu i amcanion ac anian yr ysgol;
e
cyfarwyddyd gyrfaoedd priodol i ddisgyblion sy'n cael addysg uwchradd;
f
os oes yn yr ysgol ddisgyblion sy'n iau neu'n hyn na'r oedran ysgol gorfodol, rhaglen o weithgareddau sy'n briodol i'w hanghenion;
ff
cyfle i bob disgybl ddysgu a datblygu; a
g
paratoi disgyblion yn briodol ar gyfer cyfleoedd, cyfrifoldebau a phrofiadau bywyd pan fyddant yn oedolion.
3
Rhaid i'r addysg yn yr ysgol —
a
galluogi disgyblion i ychwanegu at eu gwybodaeth, a datblygu yn ôl eu gallu er mwyn iddynt wella eu dealltwriaeth a datblygu eu medrau yn y pynciau sy'n cael eu haddysgu;
b
meithrin yn y disgyblion ymdrech ddeallusol, gorfforol neu greadigol, diddordeb yn eu gwaith, a'r gallu i feddwl a dysgu drostynt hwy eu hunain;
c
cynnwys gwersi wedi eu cynllunio'n dda, dulliau addysgu effeithiol, gweithgareddau priodol a rheolaeth ddoeth ar amser yn y dosbarth;
ch
dangos dealltwriaeth dda o allu, anghenion a chyraeddiadau blaenorol y disgyblion a sicrhau bod y rhain yn cael eu hystyried wrth gynllunio gwersi;
d
dangos gwybodaeth briodol am y pwnc sy'n cael ei addysgu a dealltwriaeth briodol ohono;
dd
defnyddio adnoddau yn y dosbarth yn effeithiol, a sicrhau bod digon ohonynt a'u bod yn foddhaol o ran eu hansawdd a'u hystod;
e
dangos bod fframwaith i asesu gwaith y disgyblion yn rheolaidd ac yn drylwyr a defnyddio'r wybodaeth a geir o'r asesiadau hynny i gynllunio'r addysgu fel y gall y disgyblion ddatblygu; a
f
annog disgyblion i ymddwyn yn gyfrifol.
4
Rhaid bod gan yr ysgol fframwaith i werthuso perfformiad y disgyblion, naill ai yn ôl amcanion yr ysgol ei hun fel y'u disgrifiwyd i'r rhieni, neu yn ôl y safonau cenedlaethol arferol, neu yn ôl y ddau.
5
Rhaid i'r ysgol ddarparu addysg effeithiol i bob disgybl mewn dosbarth er mwyn iddynt ddatblygu, gan gynnwys disgyblion â datganiadau a'r rhai y mae'r Gymraeg neu'r Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt.