- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Mae ansawdd yr addysg a ddarperir gan yr ysgol yn bodloni'r safon os bodlonir y gofynion yn is-baragraffau (2) i (5).
(2) Rhaid i'r ysgol lunio polisi ysgrifenedig ar y cwricwlwm, ei ategu â chynlluniau a chynlluniau gwaith priodol, a'i weithredu'n effeithiol; bydd y polisi'n darparu ar gyfer y canlynol —
(a)addysg llawnamser dan oruchwyliaeth i bob disgybl o oedran ysgol gorfodol, ac sy'n rhoi profiad i'r disgyblion yn y meysydd a ganlyn: addysg ieithyddol, fathemetegol, wyddonol, dechnolegol, ddynol a chymdeithasol, addysg gorfforol, ac addysg esthetaidd a chreadigol;
(b)deunydd addysgol sy'n briodol i oedran a gallu'r disgyblion, gan gynnwys y disgyblion sydd â datganiad;
(c)bod disgyblion yn datblygu medrau llefaru a gwrando, a medrau llythrennedd a Rhif edd;
(ch)os iaith heblaw'r Gymraeg neu'r Saesneg yw prif iaith yr addysgu, gwersi Cymraeg ysgrifenedig a llafar, neu Saesneg ysgrifenedig a llafar, ond na fydd y gofyniad hwn yn gymwys i ysgol sy'n darparu addysg i ddisgyblion sy'n preswylio yng Nghymru dros dro ac sy'n dilyn cwricwlwm gwlad arall;
(d)os bydd gan ddisgybl ddatganiad, addysg sy'n bodloni gofynion y datganiad hwnnw;
(dd)addysg bersonol a chymdeithasol ac addysg iechyd sy'n gweddu i amcanion ac anian yr ysgol;
(e)cyfarwyddyd gyrfaoedd priodol i ddisgyblion sy'n cael addysg uwchradd;
(f)os oes yn yr ysgol ddisgyblion sy'n iau neu'n hyn na'r oedran ysgol gorfodol, rhaglen o weithgareddau sy'n briodol i'w hanghenion;
(ff)cyfle i bob disgybl ddysgu a datblygu; a
(g)paratoi disgyblion yn briodol ar gyfer cyfleoedd, cyfrifoldebau a phrofiadau bywyd pan fyddant yn oedolion.
(3) Rhaid i'r addysg yn yr ysgol —
(a)galluogi disgyblion i ychwanegu at eu gwybodaeth, a datblygu yn ôl eu gallu er mwyn iddynt wella eu dealltwriaeth a datblygu eu medrau yn y pynciau sy'n cael eu haddysgu;
(b)meithrin yn y disgyblion ymdrech ddeallusol, gorfforol neu greadigol, diddordeb yn eu gwaith, a'r gallu i feddwl a dysgu drostynt hwy eu hunain;
(c)cynnwys gwersi wedi eu cynllunio'n dda, dulliau addysgu effeithiol, gweithgareddau priodol a rheolaeth ddoeth ar amser yn y dosbarth;
(ch)dangos dealltwriaeth dda o allu, anghenion a chyraeddiadau blaenorol y disgyblion a sicrhau bod y rhain yn cael eu hystyried wrth gynllunio gwersi;
(d)dangos gwybodaeth briodol am y pwnc sy'n cael ei addysgu a dealltwriaeth briodol ohono;
(dd)defnyddio adnoddau yn y dosbarth yn effeithiol, a sicrhau bod digon ohonynt a'u bod yn foddhaol o ran eu hansawdd a'u hystod;
(e)dangos bod fframwaith i asesu gwaith y disgyblion yn rheolaidd ac yn drylwyr a defnyddio'r wybodaeth a geir o'r asesiadau hynny i gynllunio'r addysgu fel y gall y disgyblion ddatblygu; a
(f)annog disgyblion i ymddwyn yn gyfrifol.
(4) Rhaid bod gan yr ysgol fframwaith i werthuso perfformiad y disgyblion, naill ai yn ôl amcanion yr ysgol ei hun fel y'u disgrifiwyd i'r rhieni, neu yn ôl y safonau cenedlaethol arferol, neu yn ôl y ddau.
(5) Rhaid i'r ysgol ddarparu addysg effeithiol i bob disgybl mewn dosbarth er mwyn iddynt ddatblygu, gan gynnwys disgyblion â datganiadau a'r rhai y mae'r Gymraeg neu'r Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: