Dehongli2
Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 19962;
ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 20023;
ystyr “Rheoliadau 1999” (“the 1999 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Tiroedd ac Adeiladau Ysgolion ) 19994);
ystyr “awdurdod tân” (“fire authority”) yw'r corff statudol a ddiffinnir yn adran 4 o Ddeddf Gwasanaethau Tân 19475;
ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “datganiad” (“statement”) yw datganiad o anghenion addysgol arbennig a wnaed o dan adran 324 o Ddeddf 1996;
ystyr “llety byrddio” (“boarding accommodation”) yw llety dros nos a drefnwyd neu a ddarparwyd gan yr ysgol, yn yr ysgol neu yn rhywle arall, ac eithrio llety i ddisgyblion a ddarparwyd i ffwrdd o dir ac adeiladau'r ysgol am gyfnod byr yn ystod taith ysgol;
mae i “perchennog” yr un ystyr ag sydd i “proprietor” yn adran 579 o Ddeddf 1996;
ystyr “staff” (“staff”) yw'r bobl sy'n gweithio yn yr ysgol, o dan gontract cyflogaeth, contract gwasanaethu, neu yn wirfoddolwyr; ac
ystyr “ysgol” (“school”) yw ysgol annibynnol fel y'i diffinnir gan adran 463 o Ddeddf 1996.