Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Safonau Ysgol Annibynnol (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2004.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2

Yn y Rheoliadau hyn —

  • ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 19962;

  • ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 20023;

  • ystyr “Rheoliadau 1999” (“the 1999 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Tiroedd ac Adeiladau Ysgolion ) 19994);

  • ystyr “awdurdod tân” (“fire authority”) yw'r corff statudol a ddiffinnir yn adran 4 o Ddeddf Gwasanaethau Tân 19475;

  • ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “datganiad” (“statement”) yw datganiad o anghenion addysgol arbennig a wnaed o dan adran 324 o Ddeddf 1996;

  • ystyr “llety byrddio” (“boarding accommodation”) yw llety dros nos a drefnwyd neu a ddarparwyd gan yr ysgol, yn yr ysgol neu yn rhywle arall, ac eithrio llety i ddisgyblion a ddarparwyd i ffwrdd o dir ac adeiladau'r ysgol am gyfnod byr yn ystod taith ysgol;

  • mae i “perchennog” yr un ystyr ag sydd i “proprietor” yn adran 579 o Ddeddf 1996;

  • ystyr “staff” (“staff”) yw'r bobl sy'n gweithio yn yr ysgol, o dan gontract cyflogaeth, contract gwasanaethu, neu yn wirfoddolwyr; ac

  • ystyr “ysgol” (“school”) yw ysgol annibynnol fel y'i diffinnir gan adran 463 o Ddeddf 1996.

3

Y gofynion a osodir yn yr Atodlen yw'r safonau ysgol annibynnol at ddibenion Pennod 1 o Ran 10 o Ddeddf 2002.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19986.

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol