2003 Rhif 3233 (Cy.313)
Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Cymeriad Crefyddol Ysgolion) (Gweithdrefn Ddynodi) (Cymru) 2003
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 69(5) fel y'i cymhwysir i ysgolion annibynnol, a 138(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 19981, ac a drosglwyddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 19992, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Cymeriad Crefyddol Ysgolion) (Gweithdrefn Ddynodi) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2004.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru
Dehongli2
Yn y Rheoliadau hyn —
a
ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
b
ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
c
ystyr “y grefydd berthnasol neu'r enwad crefyddol perthnasol” (“the relevant religion or religious denomination”) yw'r grefydd neu'r enwad crefyddol (neu bob un o'r crefyddau neu'r enwadau crefyddol hyn) y darperir addysg neu y bydd yn rhaid ei ddarparu yn yr ysgol neu y rheolir yr ysgol yn unol â'u daliadau.
ch
ystyr “adran 69(3)” (“section 69(3)”) yw adran 69(3) o Ddeddf 1998 fel y mae'n gymwys i ysgolion annibynnol.
Cymhwyso'r Rheoliadau hyn3
Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu'r weithdrefn y mae'n rhaid ei dilyn mewn cysylltiad â —
a
dynodi, mewn gorchymyn o dan adran 69(3), ysgol annibynnol yn ysgol grefyddol ei chymeriad; a
b
datgan yn y gorchymyn hwnnw, mewn perthynas â'r ysgol honno, y grefydd berthnasol neu'r enwad crefyddol perthnasol.
Gweithdrefn gwneud cais4
1
Er mwyn i ysgol annibynnol gael ei dynodi yn ysgol grefyddol ei chymeriad, rhaid i berchennog yr ysgol wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol am orchymyn o dan adran 69(3).
2
Rhaid i'r cais —
a
datgan crefydd berthnasol neu enwad crefyddol perthnasol yr ysgol;
b
cynnwys y sail dros wneud y cais ynghyd ag unrhyw dystiolaeth sy'n cefnogi'r sail honno; ac
c
cynnwys unrhyw sylwadau a wneir gan gorff crefyddol ar ran yr ysgol.
3
Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cael cais am orchymyn, o dan y Rheoliadau hyn, caiff ymgynghori ag unrhyw gorff crefyddol y mae'n ei farnu'n briodol ynghylch cais yr ysgol.
Gweithdrefn ddynodi5
1
Os bydd perchennog ysgol yn gwneud cais am orchymyn o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddynodi'r ysgol yn ysgol grefyddol ei chymeriad os —
a
yw'n fodlon y rheolir yr ysgol neu fod yr addysg a ddarperir yn yr ysgol yn unol â daliadau un neu fwy o grefyddau neu enwadau crefyddol; a
b
bod rhai neu'r cyfan o'r tiroedd a'r adeiladau a feddiennir gan yr ysgol ar hyn o bryd wedi'u darparu ar ymddiried mewn cysylltiad â —
i
darparu addysg, neu
ii
rheoli sefydliad addysgol
yn unol â daliadau un neu fwy o grefyddau neu enwadau crefyddol; neu
c
bod o leiaf un aelod o'r corff llywodraethu yn berson a benodwyd yn llywodraethwr i gynrychioli buddiannau un neu fwy o grefyddau neu enwadau crefyddol; neu
ch
bod offeryn llywodraethu'r ysgol yn darparu —
i
y rheolir yr ysgol yn unol â daliadau un neu ragor o grefyddau neu enwadau crefyddol; neu
ii
y darperir yr addysg yn yr ysgol yn unol â daliadau un neu fwy o grefyddau neu enwadau crefyddol.
2
Os yw perchennog ysgol yn gwenud cais am orchymyn yn unol â'r Rheoliadau yma, ond nid yw is-baragraff (1) yn gymwys, mi all y Cynulliad Cenedlaethol serch hynny ddynodi ysgol sydd â chymeriad crefyddol os yw yn ei ystyried yn addas i wneud hynny, gan ystyried y canlynol—
a
p'un a yw'r ysgol yn cael ei rheoli yn unol â daliadau un neu ragor o grefyddau neu enwadau crefyddol;
b
p'un a yw'r addysg yn yr ysgol yn cael ei darparu yn unol â daliadau un neu fwy o grefyddau neu enwadau crefyddol; ac
c
unrhyw sylwadau a wneir gan gorff crefyddol ar ran yr ysgol.
3
At ddibenion y rheoliad hwn nid yw unrhyw gyfeiriad at addysg mewn ysgol yn cael ei darparu yn unol â daliadau un neu fwy o grefyddau neu enwadau crefyddol yn ei gwneud yn ofynnol i'r holl addysg gael ei gwneud yn unol â'r daliadau crefyddol hynny.
Newidiadau mewn dynodiadau a datganiadau6
1
Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw adeg o'r farn bod gorchymyn a wnaed yn flaenorol o dan adran 69(3) yn cynnwys camgymeriad perthnasol, neu y methyd yn anghywir i ddynodi unrhyw ysgol; mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud pa bynnag orchymyn o dan yr adran honno y mae'n ystyried yn briodol at ddibenion cywiro'r camgymeriad.
2
Cyn gwneud gorchymyn o dan baragraff (1) sydd yn effeithio dynodiad ysgol arbennig neu'r datganiad o grefydd priodol neu enwad crefyddol mewn perthynas â ysgol arbennig, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ymgynghori gyda pherchennog yr ysgol honno, a gall ymgynghori gydag unrhyw gorff crefyddol y mae'n ystyried yn briodol.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19983.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)