Gweithdrefn ddynodi5
1
Os bydd perchennog ysgol yn gwneud cais am orchymyn o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddynodi'r ysgol yn ysgol grefyddol ei chymeriad os —
a
yw'n fodlon y rheolir yr ysgol neu fod yr addysg a ddarperir yn yr ysgol yn unol â daliadau un neu fwy o grefyddau neu enwadau crefyddol; a
b
bod rhai neu'r cyfan o'r tiroedd a'r adeiladau a feddiennir gan yr ysgol ar hyn o bryd wedi'u darparu ar ymddiried mewn cysylltiad â —
i
darparu addysg, neu
ii
rheoli sefydliad addysgol
yn unol â daliadau un neu fwy o grefyddau neu enwadau crefyddol; neu
c
bod o leiaf un aelod o'r corff llywodraethu yn berson a benodwyd yn llywodraethwr i gynrychioli buddiannau un neu fwy o grefyddau neu enwadau crefyddol; neu
ch
bod offeryn llywodraethu'r ysgol yn darparu —
i
y rheolir yr ysgol yn unol â daliadau un neu ragor o grefyddau neu enwadau crefyddol; neu
ii
y darperir yr addysg yn yr ysgol yn unol â daliadau un neu fwy o grefyddau neu enwadau crefyddol.
2
Os yw perchennog ysgol yn gwenud cais am orchymyn yn unol â'r Rheoliadau yma, ond nid yw is-baragraff (1) yn gymwys, mi all y Cynulliad Cenedlaethol serch hynny ddynodi ysgol sydd â chymeriad crefyddol os yw yn ei ystyried yn addas i wneud hynny, gan ystyried y canlynol—
a
p'un a yw'r ysgol yn cael ei rheoli yn unol â daliadau un neu ragor o grefyddau neu enwadau crefyddol;
b
p'un a yw'r addysg yn yr ysgol yn cael ei darparu yn unol â daliadau un neu fwy o grefyddau neu enwadau crefyddol; ac
c
unrhyw sylwadau a wneir gan gorff crefyddol ar ran yr ysgol.
3
At ddibenion y rheoliad hwn nid yw unrhyw gyfeiriad at addysg mewn ysgol yn cael ei darparu yn unol â daliadau un neu fwy o grefyddau neu enwadau crefyddol yn ei gwneud yn ofynnol i'r holl addysg gael ei gwneud yn unol â'r daliadau crefyddol hynny.