- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Wedi'u gwneud
9 Rhagfyr 2003
Yn dod i rym
1 Ionawr 2004
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 163(3)(b) a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002(1), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Cyhoeddi Adroddiadau Arolygu) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2004.
2. Mae'r Rheoliadau yma yn gymwys i Gymru.
3. Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw arolygiad cyn 1 Ionawr 2006 o ysgol a oedd ar 31 Rhagfyr 2003 wedi'i chofrestru dros dro yn unol ag adran 465(3) o Ddeddf Addysg 1996(2).
4. Pan fydd yr awdurdod cofrestru yn ei gwneud yn ofynnol bod yr adroddiad arolygu a wnaed o dan adran 163(3)(a) o Ddeddf Addysg 2002 cael ei gyhoeddi, rhaid i'r person a gynhaliodd yr arolygiad —
(a)anfon copi o'r adroddiad arolygu, ac unrhyw grynodeb o'r adroddiad hwnnw at y perchennog, a
(b)rhoi copi o'r adroddiad arolygu, ac unrhyw grynodeb o'r adroddiad hwnnw, ar y rhyngrwyd ar ei wefan.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Rhagfyr 2003
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn manylu ar sut y mae adroddiad arolygu i'w gyhoeddi pan fydd ei gyhoeddi yn ofynnol gan yr awdurdod cofrestru wedi i ysgol annibynnol gael ei harolygu gan y Prif Arolygydd neu gan un arolygydd cofrestredig neu fwy o dan adran 163(1)(a) o Ddeddf Addysg 2002.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: