YR ATODLEN

RHAN 4GWYBODAETH Y MAE EI HANGEN MEWN FFURFLEN FLYNYDDOL

9

Yr holl wybodaeth a bennir gan Ran 2 a 3 o'r Atodlen hon ac eithrio'r hyn a bennir ym mharagraffau 3(6) i 3(10), 3(13) a 7.

10

Ar gyfer pob person a ddechreuodd gael ei gyflogi yn yr ysgol neu y daeth ei gyflogaeth i ben ers dyddiad y ffurflen ddiwethaf at yr awdurdod cofrestru—

a

enw llawn y person ac unrhyw enw blaenorol a fu ganddo;

b

rhyw'r person, ei ddyddiad geni, ei rif Yswiriant Cenedlaethol ac ym mha swyddogaeth y caiff ei gyflogi;

c

ym mha le y mae'n athro, ei gymwysterau a datganiad ynghylch pa un ai ef yw'r pennaeth, a yw'n athro llawnamser, neu'n athro rhan-amser; ac

ch

cadarnhad ei fod ef wedi derbyn Tystysgrif Ddatgelu ar y lefel briodol a roddwyd gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol yn cadarnhau eu bod yn addas i weithio gyda phlant.

11

Yn y ddwy flynedd cyn dyddiad dychwelyd y ffurflen, ac eithrio yn achos y ffurflen flynyddol gyntaf, nifer y plant sy'n mynychu'r ysgol ac y darparwyd llety iddynt yno (neu yn rhywle arall yn unol â threfniadau a wnaed gan y perchennog) am fwy na 295 diwrnod yn y flwyddyn honno.

12

1

Nifer y disgyblion ym mhob grŵp blwyddyn disgyblion 15, 16, 17 a 18 oed sy'n dilyn cyrsiau ar gyfer arholiadau.

2

Nifer y disgyblion ym mhob grŵp blwyddyn o ddisgyblion 15, 16, 17 a 18 oed sydd wedi cwblhau cyrsiau ar gyfer arholiad Tystysgrif Addysg Gyffredinol (Safon Uwch neu Safon Uwch Gyfrannol), neu Dystysgrif Addysg Alwedigaethol Uwch (TAAU), ond sy'n aros yn yr ysgol at ddiben heblaw dilyn unrhyw gwrs pellach o'r natur honno.

3

Nifer y disgyblion ym mhob grŵp blwyddyn o ddisgyblion 15, 16, 17 a 18 oed (ac eithrio'r rhai sydd yng nghategori'r disgyblion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2)) sy'n mynychu'r ysgol at ddiben heblaw dilyn cyrsiau ar gyfer arholiad perthnasol.

4

Rhaid datgan y nifer a bennir yn y ffurflen flynyddol o dan is-baragraff (1) a (2) ar wahân ar gyfer —

a

cyrsiau mewn pynciau mathemategol neu wyddonol yn unig;

b

cyrsiau mewn pynciau eraill yn unig;

c

cyrsiau mewn pynciau mathemategol neu wyddonol yn rhannol ac mewn pynciau eraill yn rhannol; ac

ch

bechgyn a merched.

13

Os bu newid ar dir yr ysgol neu yn ei hadeiladau neu'i llety byrddio ers y dyddiad hyd ato y llanwyd y ffurflen flynyddol yn uniongyrchol o'i blaen (neu, yn achos y ffurflen flynyddol gyntaf, ers y dyddiad hyd ato y llanwyd yr wybodaeth a gynhwyswyd yn y cais i gofrestru'r ysgol), manylion y newid hwnnw.