YR ATODLEN
RHAN 3GWYBODAETH Y MAE EI HANGEN YN Y FFURFLEN SYDD I'W CHYFLWYNO CYN PEN Y TRI MIS CYNTAF AR ÔL DERBYN DISGYBLION
4
1
Nifer y disgyblion ym mhob grŵp blwyddyn perthnasol.
2
Yn achos ysgol â llety byrddio —
a
nifer y disgyblion byrddio; a
b
oedran yr hynaf a'r ieuengaf o'r disgyblion byrddio (ar 31 Awst yn union cyn y dyddiad y cyfeirir ato yn rheoliad 5(2)(b)).
3
Yn achos ysgol sydd hefyd yn darparu addysg ran-amser, rhaid rhoi'r niferoedd y mae is-baragraff (1) yn eu gwneud yn ofynnol ar wahân ar gyfer disgyblion sy'n cael addysg ran-amser a'r rhai sy'n cael addysg lawn amser.
4
Yn achos ysgol gydaddysgol, rhaid rhoi'r niferoedd sy'n ofynnol gan y paragraff hwn ar wahân ar gyfer bechgyn a merched.
5
1
Nifer y disgyblion yn yr ysgol y mae'r awdurdod addysg lleol yn cynnal datganiad o achos anghenion addysgol arbennig yn unol ag adran 324 o Ddeddf 1996 mewn perthynas â hwy; ac mewn perthynas â phob un o'r disgyblion hynny —
a
ei enw;
b
y dyddiad pan ddaeth yn ddisgybl yn yr ysgol; ac
c
enw'r awdurdod addysg lleol sy'n cynnal y datganiad.
2
Nifer y disgyblion yn yr ysgol nad ydynt yn dod o dan is-baragraff (1), ond y dynodwyd bod ganddynt anghenion addysgol arbennig.
6
Yr wybodaeth ganlynol ynghylch athrawon a gyflogir yn yr ysgol (a rhoddir niferoedd ar wahân ar gyfer dynion a merched) —
a
nifer yr athrawon llawn amser;
b
nifer yr athrawon rhan-amser; ac
c
cyfanswm nifer yr oriau bob wythnos y mae athrawon rhan-amser yn eu gweithio yn ystod y tymor.
7
Yr wybodaeth ganlynol ynghylch pob person a gyflogir yn yr ysgol —
a
enw'r person ac unrhyw enw blaenorol a fu ganddo;
b
rhyw'r person, ei ddyddiad geni, ei rif Yswiriant Cenedlaethol ac ym mha swyddogaeth y caiff ei gyflogi;
c
yn achos pob athro, ei gymwysterau a datganiad yn dweud ai ef yw'r pennaeth neu a yw'n athro llawnamser neu ran-amser; ac
ch
cadarnhad ei fod ef wedi derbyn Tystysgrif Ddatgelu ar y lefel briodol gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol yn cadarnhau ei fod yn addas i weithio gyda phlant.
8
1
Swm y ffioedd hyfforddi a ffioedd eraill (ac eithrio ffioedd llety byrddio) sy'n daladwy mewn perthynas â disgybl yn yr ysgol ac y mae eu talu yn un o amodau mynychu'r ysgol.
2
Yn achos ysgol sy'n darparu llety byrddio i ddisgyblion, swm y ffioedd byrddio blynyddol sy'n daladwy mewn perthynas â disgybl byrddio.