Dehongli2

1

Yn y Rheoliadau hyn —

  • ystyr “Deddf 19962 (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;

  • ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;

  • ystyr “cais” (“application”) yw cais a wnaed i'r awdurdod cofrestru i gofrestru ysgol annibynnol gan y perchennog yn unol ag adran 160(1)(b) o Ddeddf 2002;

  • ystyr “y gofrestr” (“the register”) yw cofrestr ysgolion annibynnol a gedwir gan yr awdurdod cofrestru o dan adran 158(3) o Ddeddf 2002;

  • mae i “perchennog” yr ystyr a roddir i “proprietor” yn adran 579 o Ddeddf 1996;

  • ystyr “ysgol” (“school”) yw ysgol annibynnol fel y'i diffinnir gan adran 463 o Ddeddf 1996; ac

  • ystyr “ysgol gofrestredig” (“registered school”) yw ysgol y mae cofnod o'i henw ar y gofrestr.

2

Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau at berson a gyflogir mewn ysgol yn gyfeiriad at berson sy'n cyflawni gwaith y mae adran 142 o Ddeddf 2002 yn gymwys iddo.