Cofrestru9
1
Rhaid i'r Asiantaeth gadw cofrestr o safleoedd sydd wedi'u hawdurdodi o dan reoliad 4 neu 5.
2
Rhaid i bob awdurdod bwyd hysbysu'r Asiantaeth, drwy unrhyw gyfrwng y mae'n rhesymol i'r Asiantaeth ofyn amdano —
a
o bob awdurdodiad a roddir o dan reoliad 4 neu 5;
b
o bob awdurdodiad a dynnir yn ôl, a atelir neu a ddilëir gan yr awdurdod bwyd;
c
o bob hysbysiad a roddir o dan reoliad 6(2)(a);
ch
o unrhyw newid o ran perchnogaeth y busnes sy'n cael ei redeg ar safle sydd wedi'i awdurdodi o dan reoliad 4 neu 5; a
d
o unrhyw gamgymeriad neu hepgoriad yn yr wybodaeth yn y gofrestr sy'n dod i sylw'r awdurdod bwyd.
3
Rhaid i bob hysbysiad o dan baragraff (2) gynnwys yr wybodaeth ganlynol —
a
cyfeiriad y safle;
b
enw perchennog y busnes sy'n cael ei redeg ar y safle;
c
unrhyw enw masnachu neu enw arall (ac eithrio enw'r perchennog) yr adnabyddir y busnes sy'n cael ei redeg ar y safle wrtho;
ch
y Rhif adnabod a roddwyd o dan reoliad 4(2) neu 5(2);
d
ai fel canolfan gasglu, fel tanerdy ynteu fel sefydliad sy'n cynhyrchu colagen y mae'r safle wedi'i awdurdodi; ac
dd
y dyddiad y mae'r awdurdodiad a roddwyd o dan reoliad 4 neu 5 yn dod yn effeithiol a'r dyddiad y daeth atal yr awdurdodiad, ei dynnu'n ôl, neu ei ddileu yn effeithiol.
4
Rhaid i'r Asiantaeth gymryd camau rhesymol i drefnu bod yr wybodaeth ar y gofrestr ar gael i'r cyhoedd ar adegau rhesymol.