Atal awdurdodiadau a'u tynnu yn ôl6
1
Caiff awdurdod bwyd atal awdurdodiad a ganiatawyd o dan reoliad 4 neu 5 neu ei dynnu'n ôl os yw wedi'i fodloni nad yw'r ganolfan gasglu, y tanerdy neu'r sefydliad dan sylw (“y safle”) yn bodloni'r gofynion a bennir yn rheoliad 4(1) neu 5(1) fel sy'n briodol, neu fod perchennog y safle wedi methu â chydymffurfio â rheoliadau 4(3) neu 5(3), fel sy'n briodol.
2
Rhaid i awdurdod bwyd beidio ag atal awdurdodiad neu ei dynnu'n ôl o dan y rheoliad hwn oni bai —
a
ei fod wedi cyflwyno hysbysiad i berchennog y busnes sy'n cael ei redeg ar y safle; a
b
ei fod wedi'i fodloni, ar ôl i'r amser ar gyfer cydymffurfio â'r hysbysiad ddod i ben, nad yw'r safle'n cydymffurfio â'r gofynion a bennir yn yr hysbysiad.
3
Rhaid i hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (2)(a) —
a
datgan bod yr awdurdod bwyd yn bwriadu atal yr awdurdodiad neu, yn ôl fel y digwydd, ei dynnu'n ôl;
b
nodi pob gofyniad, a bennir yn rheoliad 4(1) neu (3) neu reoliad 5(1) neu (3), fel sy'n briodol, ac y mae'r awdurdod bwyd wedi'i fodloni na chydymffurfiwyd ag ef mewn perthynas â'r safle;
c
mewn perthynas â phob gofyniad a nodir o dan is-baragraff (b) uchod, rhoi'r rhesymau pam mae'r awdurdod bwyd wedi'i fodloni na chydymffurfiwyd â'r gofyniad; ac
ch
datgan y gall yr awdurdodiad gael ei atal neu ei dynnu'n ôl oni bai bod perchennog y busnes yn cydymffurfio â'r gofynion a bennir yn yr hysbysiad o fewn unrhyw amser rhesymol a nodir yn yr hysbysiad.