Awdurdodi sefydliadau sy'n cynhyrchu colagen a fwriedir i'w fwyta gan bobl5
1
Pan wneir cais o dan y rheoliad hwn, rhaid i awdurdod bwyd awdurdodi sefydliad i gynhyrchu colagen a fwriedir i'w fwyta gan bobl os yw'r awdurdod bwyd wedi'i fodloni—
a
bod perchennog y sefydliad yn cynnal profion i sicrhau —
i
bod pwyntiau critigol yn y sefydliad mewn perthynas â'r broses gynhyrchu a ddefnyddir yn cael eu nodi a'u bod yn dderbyniol gan yr awdurdod bwyd,
ii
bod dulliau o fonitro a rheoli'r fath bwyntiau yn cael eu rhoi ar waith a'u bod yn dderbyniol gan yr awdurdod bwyd,
iii
bod samplau'n cael eu cymryd at ddibenion gwirio dulliau glanhau a diheintio a bod y sefydliad yn cydymffurfio â'r safonau a nodir yn unol â Phenderfyniad y Comisiwn 2003/721/EC,
iv
bod y samplau hynny'n cael eu ddansoddi fel sy'n briodol a hynny mewn labordy sy'n dderbyniol gan yr awdurdod,
v
yr hysbysir yr awdurdod bwyd ar unwaith pan fydd archwiliad o samplau mewn labordy neu unrhyw wybodaeth arall sydd yn nwylo'r perchennog yn datgelu bod yna risg ddifrifol i iechyd, a
vi
os bydd yna risg ar fin digwydd i iechyd, tynnir oddi ar y farchnad y cynhyrchion hynny a geir o dan amodau tebyg yn dechnolegol ac sy'n debygol o beri'r un risg;
b
bod gan berchennog y sefydliad sytem ar waith i sicrhau y gwneir cofnod ar ffurf barhaol mewn cysylltiad â'r materion a nodir yn is-adrannau (i) i (iii) o baragraff (a) a chanlyniadau'r dadansoddiad y cyfeirir ato yn is-adran (iv) o'r paragraff hwnnw, a bod y cofnod yn cael ei gadw am gyfnod o ddwy flynedd o leiaf a'i fod ar gael i'r awdurdod bwyd os gofynnir amdano;
c
bod perchennog y sefydliad wedi trefnu neu wedi rhoi ar waith raglen hyfforddi staff er mwyn galluogi staff, sy'n ymwneud â chynhyrchu colagen a fwriedir i'w fwyta gan bobl, ac nad oes ganddynt eisoes gymwysterau sy'n ddigonol ac yn berthnasol i'r pwrpas hwnnw, i gydymffurfio â'r amodau ar gynhyrchu hylan sy'n briodol i'w dyletswyddau; ac
ch
bod gan yr awdurdod bwyd yr holl wybodaeth y mae ei hangen arno i hysbysu'r Asiantaeth o awdurdodiad yn unol â rheoliad 9(2)(a).
2
Pan ganiateir awdurdodiad o dan y rheoliad hwn, rhaid i'r awdurdod bwyd roi Rhif adnabod unigryw i'r sefydlaid dan sylw.
3
Rhaid i berchennog y busnes sy'n cael ei redeg yn unrhyw sefydliad a awdurdodwyd o dan y rheoliad hwn hysbysu'r awdurdod bwyd ar unwaith —
a
o unrhyw newid, neu newid a fwriedir, o ran perchnogaeth y busnes hwnnw; neu
b
o unrhyw newid perthnasol, neu newid perthnasol a fwriedir, o ran gweithredu'r busnes hwnnw.