Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn gweithredu, mewn perthynas â Chymru, Penderfyniad y Comisiwn 2003/721/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb y Cyngor 92/118/EEC ynglŷn â'r gofynion ar gyfer colagen (OJ Rhif L260, 11.10.2003, t.21) fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2003/503/EC (OJ Rhif L170, 9.7.2003, t.30) — “Penderfyniad y Comisiwn” — i'r graddau y mae'n ymwneud â masnach rhwng Aelod-wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd.
Mae darpariaethau Cyfarwyddeb y Cyngor 92/118/EEC (OJ Rhif L62, 15.3.93, t.49) sy'n berthnasol i fasnach o fewn y Gymuned yn cael eu gweithredu mewn perthynas â Phrydain Fawr yn ei chyfanrwydd gan Reoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996 (O.S. 1996/3124, fel y'u diwygiwyd eisoes) — “Rheoliadau 1996”.
Mae Penderfyniad y Comisiwn yn diwygio Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/118/EEC — a hynny'n effeithiol o 31 Rhagfyr 2003 ymlaen —
drwy ddiwygio'r ddogfen fasnachol gyfredol, a geir ym Mhennod IV o'r Atodiad hwnnw, ar gyfer deunydd crai a fwriedir ar gyfer cynhyrchu gelatin i'w fwyta gan bobl; a
drwy fewnosod yn yr Atodiad hwnnw ofynion newydd yn gysylltiedig â cholagen a fwriedir i'w fwyta gan bobl.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1996, a hynny'n effeithiol o 31 Rhagfyr 2003 ymlaen er mwyn gwneud y diwygiad a ddisgrifir ym mharagraph 3(a) a'r gofynion y cyfeirir atynt ym mharagraff 3(b) yn effeithiol; mae'r rhain yn cyfeirio at —
sefydliadau cynhyrchu;
y deunyddiau crai y caniateir eu defnyddio wrth gynhyrchu a'r amodau sydd ynghlwm wrth eu defnyddio;
cludo a storio deunyddiau crai o'r fath;
y broses gynhyrchu;
camau priodol i'w cymryd i sicrhau bod sypau a gynhyrchir yn bodloni meini prawf penodol; ac
pacio, storio a chludo (rheoliad 3(3)).
Wrth weithredu gweddill y gofynion y cyfeirir atynt ym mharagraff 3(b), mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud y canlynol a hynny'n effeithiol o 31 Rhagfyr 2003 ymlaen —
trwy ddiwygio paragraff 9 o Atodlen 3 i Reoliadau 1996—
maent yn datgymhwyso, mewn cysylltiad â sefydliadau sy'n cynhyrchu colagen a fwriedir i'w fwyta gan bobl, y gofynion cofrestru yn rheoliad 11 o Reoliadau 1996 a fyddai'n gymwys iddynt fel arall, a
maent yn peri bod rheoliad 12 o'r Rheoliadau hynny (rheoliad 3(2)) yn dal heb fod yn gymwys i'r sefydliadau hynny a;
maent yn rhoi'r pŵer i awdurdodau bwyd yng Nghymru ganiatáu, atal, tynnu'n ôl neu ddileu, a hynny'n ddarostyngedig i'r hawl i apelio, awdurdodiadau —
i ganolfannau casglu a thanerdai sy'n cyflenwi deunyddiau crai ar gyfer cynhyrchu colagen a fwriedir i'w fwyta gan bobl, a
sefydliadau sy'n cynhyrchu colagen a fwriedir i'w fwyta gan bobl (rheoliadau 4 i 8).
Mae'n ofynnol i'r Asiantaeth Safonau Bwyd gadw cofrestr o'r safleoedd a awdurdodwyd gan awdurdodau bwyd o dan reoliadau 4 a 5 ac mae'n ofynnol i awdurdodau bwyd roi i'r Asiantaeth wybodaeth benodol ynghylch awdurdodiadau a ganiatawyd ganddynt (rheoliad 9).
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer eu gorfodi gan yr awdurdod bwyd perthnasol ac, at ddibenion gorfodi o'r fath, yn cymhwyso rheoliad 6(2) i (6) o Reoliadau 1996 (rheoliad 10).
Mae Arfarniad Rheoliadaol o effaith y Rheoliadau hyn ar gostau busnes wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac wedi'i roi yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EW.