YR ATODLENCYFANSODDIAD Y PANELAU APÊL A'R GWEITHDREFNAU AR EU CYFER
Terfynau amser a hysbysiadau'n hepgor yr hawl i apelio1
1
Ni cheir gwneud apêl o dan reoliad 6(1) yn erbyn penderfyniad i beidio â derbyn disgybl yn ôl ar ôl y pymthegfed diwrnod ysgol ar ôl y diwrnod y rhoddwyd i'r person perthnasol hysbysiad ysgrifenedig o dan reoliad 6(6)(b).
2
At ddibenion cyfrifo'r cyfnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (1), cymerir bod yr hysbysiad wedi'i roi —
a
pan ddefnyddir post dosbarth cyntaf, ar yr ail ddiwrnod gwaith ar ôl y dyddiad postio, neu
b
pan draddodir yr hysbysiad â llaw, ar ddyddiad ei draddodi,
oni ddangosir i'r gwrthwyneb yn y naill achos neu'r llall.
3
Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), mae unrhyw hysbysiad ysgrifenedig a roddir gan y person perthnasol i'r awdurdod addysg lleol, sy'n datgan nad yw'n bwriadu apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â derbyn y disgybl yn ôl, yn derfynol.
4
Os yw'r person perthnasol yn ddisgybl o oedran ysgol gorfodol ac yntau'n 11 oed neu'n hŷn ar y diwrnod cyn dechrau'r flwyddyn ysgol y cafodd y disgybl hwnnw ei wahardd ac yn un o'i rieni, bydd hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan is-baragraff (3) gan riant yn cael ei drin fel hysbysiad terfynol p'un a yw'r disgybl wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig o'r fath neu beidio.
Cyfansoddiad y panelau apêl2
1
Mae panel apêl yn unol â threfniadau a wnaed gan awdurdod addysg lleol o dan reoliad 7(1) i fod yn banel apêl a ffurfiwyd yn unol â'r paragraff hwn.
2
Mae panel apêl i fod yn banel a ffurfiwyd o dri neu bum aelod a benodwyd gan yr awdurdod addysg lleol o blith y canlynol —
a
personau sy'n gymwys i fod yn aelodau lleyg;
b
personau sy'n gweithio ar hyn o bryd ym myd addysg neu reolaeth addysg; ac
c
personau sydd neu a fu yn llywodraethwyr ysgolion a gynhelir, ar yr amod eu bod wedi gwasanaethu fel llywodraethwyr am o leiaf ddeuddeng mis yn olynol yn y chwe blynedd ddiwethaf, ac nad ydynt wedi bod yn athrawon neu'n benaethiaid yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf.
3
Allan o aelodau panel apêl —
a
os ffurfir ef gan dri aelod rhaid penodi un o bob un o'r tri chategori yn is-baragraff (2);
b
os ffurfir ef gan bum aelod —
i
rhaid bod un yn berson sy'n gymwys i fod yn aelod lleyg a'i fod wedi ei benodi felly;
ii
rhaid i ddau fod yn bersonau sy'n dod o fewn is-baragraff (2)(b); a
iii
rhaid i ddau fod yn bersonau sy'n dod o fewn is-baragraff (2)(c).
4
At ddibenion y paragraff hwn a pharagraff 4 mae person yn gymwys i fod yn aelod lleyg os yw'n berson heb brofiad personol o reoli unrhyw ysgol neu ddarparu addysg mewn unrhyw ysgol (gan ddiystyru unrhyw brofiad fel llywodraethwr neu mewn unrhyw swyddogaeth wirfoddol arall).
5
Caiff yr awdurdod addysg lleol benodi digon o bobl o dan y paragraff hwn i alluogi dau banel apêl neu fwy i eistedd ar yr un pryd.
6
Ni chaiff neb fod yn aelod o banel apêl os cafodd ei ddatgymhwyso yn rhinwedd is-baragraff (7).
7
Datgymhwysir y bobl a ganlyn rhag bod yn aelodau panel apêl —
a
unrhyw aelod o awdurdod addysg lleol neu o gorff llywodraethu'r ysgol o dan sylw;
b
pennaeth yr ysgol o dan sylw, neu unrhyw athro neu athrawes yn yr ysgol honno, neu unrhyw berson a ddaliodd y swydd honno yn y pum mlynedd flaenorol;
c
unrhyw berson a gyflogir gan yr awdurdod addysg lleol heblaw fel pennaeth neu athro neu athrawes;
ch
unrhyw berson y mae ganddo, neu y bu ganddo ar unrhyw adeg, gysylltiad â'r canlynol —
i
yr awdurdod addysg lleol neu'r ysgol, neu gysylltiad ag unrhyw berson o fewn paragraff (b) neu (c), neu
ii
y disgybl o dan sylw neu â'r digwyddiad a arweiniodd at ei wahardd,
o fath y gellid yn rhesymol gymryd y byddai'n codi amheuon am ei allu i weithredu'n ddiduedd.
8
Nid yw person a gyflogir gan yr awdurdod addysg lleol fel pennaeth neu athro neu athrawes i'w gymryd, o achos y gyflogaeth honno yn unig, fel un a chanddo gysylltiad o'r fath â'r awdurdod a grybwyllir yn is-baragraff (7)(ch).
9
Os bydd unrhyw aelod, ar unrhyw adeg ar ôl i banel apêl sy'n cynnwys pum aelod ddechrau ystyried apêl, —
a
yn marw, neu
b
yn analluog drwy salwch i barhau fel aelod,
caiff y panel barhau i ystyried a phenderfynu'r apêl ar yr amod nad yw nifer gweddill yr aelodau yn llai na thri a bod gofynion is-baragraff (3)(a) yn cael eu bodloni.
10
Rhaid i banel apêl gael ei gadeirio gan y person a benodwyd yn aelod lleyg.
Lwfansau i aelodau3
1
At ddibenion talu lwfansau colled ariannol o dan adran 173(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 197214 mae'r ddarpariaeth honno i fod yn gymwys i unrhyw aelod o'r panel apêl a ffurfiwyd yn unol â pharagraff 2; ac yn yr adran honno, fel y mae'n gymwys, mae'r cyfeiriad at ddyletswydd wedi'i chymeradwyo i'w ddarllen fel cyfeiriad at bresenoldeb mewn cyfarfod o'r panel apêl.
2
Mae adran 174(1) o'r Ddeddf honno i fod yn gymwys mewn perthynas â phanel apêl a ffurfiwyd yn unol â pharagraff 2 ac yn yr adran honno, fel y mae'n gymwys, mae'r cyfeiriad at daliadau yn ôl y graddau y penderfynir arnynt gan y corff o dan sylw i'w ddarllen fel cyfeiriad at daliadau yn ôl y graddau y penderfynir arnynt gan yr awdurdod addysg lleol.
Dyletswydd i hysbysebu am aelodau lleyg4
1
Rhaid i unrhyw awdurdod addysg lleol y mae'n ofynnol iddo wneud trefniadau o dan reoliad 7(1), yn ôl y cyfnodau a bennir yn is-baragraff (2), sicrhau cyhoeddi hysbyseb ar gyfer aelodau lleyg o'r panel apêl a ffurfiwyd gan yr awdurdod hwnnw.
2
Rhaid cyhoeddi hysbyseb cyn diwedd y cyfnod o dair blynedd sy'n dechrau pan ddyroddwyd yr hysbyseb ddiwethaf o dan Reoliadau Addysg (Aelodau Lleyg Pwyllgorau Apêl) 199415 ac wedyn bob tair blynedd yn dilyn y dyddiad pan gyhoeddwyd hysbyseb ddiwethaf (neu pan gyhoeddwyd hysbyseb olaf cyfres o hysbysebion) yn unol â'r paragraff hwn.
3
Rhaid i'r hysbyseb y cyfeirir ati yn is-baragraff (1) —
a
ddynodi'r ysgolion a wasanaethir gan y panel apêl y mae'r hysbyseb yn berthnasol iddo wrth eu henw, eu dosbarth, neu eu disgrifiad cyffredinol;
b
gael ei gosod mewn o leiaf un papur newydd lleol sy'n cylchredeg yn yr ardal y lleolir yr ysgolion a enwir yn yr hysbyseb ynddi;
c
caniatáu cyfnod o 21 diwrnod o leiaf o ddyddiad cyhoeddi'r hysbyseb ar gyfer atebion.
4
Cyn penodi unrhyw aelod lleyg rhaid i'r awdurdod addysg lleol ystyried unrhyw bobl sy'n gymwys i gael eu penodi sydd wedi cyflwyno cais i'r awdurdod wrth ymateb i'r hysbyseb ddiweddaraf neu i gyfres o hysbysebion a osodwyd yn unol â'r paragraff hwn yn nodi eu bod yn dymuno cael eu hystyried ar gyfer penodiad o'r fath.
Indemniad5
Rhaid i unrhyw awdurdod addysg lleol y mae'n ofynnol iddo wneud trefniadau o dan reoliad 7(1) indemnio aelodau unrhyw banel apêl y mae'n ofynnol ei ffurfio at ddibenion y trefniadau hynny yn erbyn unrhyw gostau cyfreithiol rhesymol a threuliau a wariwyd yn rhesymol gan yr aelodau hynny mewn cysylltiad ag unrhyw benderfyniad neu gamau a wnaethant yn ddidwyll yn unol â'u swyddogaethau fel aelodau o'r panel hwnnw.
Y weithdrefn ar apêl
6
Yn narpariaethau canlynol yr Atodlen hon, ystyr “apêl” yw apêl o dan reoliad 7(1) ac ystyr “y dyddiad cau ar gyfer apelau” yw'r pymthegfed diwrnod ysgol ar ôl y diwrnod pan adneuir yr apêl.
7
Rhaid i apêl fod ar ffurf hysbysiad ysgrifenedig sy'n nodi'r seiliau dros ei gwneud.
8
1
Rhaid i'r panel apêl gyfarfod i ystyried apêl ar ddyddiad y caiff yr awdurdod addysg lleol ei benderfynu.
2
Rhaid i'r dyddiad a bennir beidio â bod yn hwyrach na'r dyddiad cau ar gyfer apelau.
9
1
At ddibenion pennu'r amser (yn unol â pharagraff 8) y mae gwrandawiad apêl i ddigwydd, rhaid i'r awdurdod addysg lleol gymryd camau rhesymol i ganfod unrhyw amserau sy'n digwydd ar neu cyn y dyddiad cau ar gyfer apelau pan na fyddai —
a
y person perthnasol, neu
b
unrhyw berson arall sy'n dymuno ymddangos, ac y mae ganddo hawl i ymddangos, a rhoi sylwadau llafar yn unol â pharagraff 10,
yn gallu bod yn bresennol.
2
Pan fydd yr awdurdod addysg lleol yn unol ag is-baragraff (1) wedi canfod unrhyw amserau o'r fath yn achos unrhyw berson o'r fath, rhaid iddo, wrth bennu amser y gwrandawiad, ystyried yr amserau hynny er mwyn sicrhau, i'r graddau y mae hynny'n rhesymol ymarferol, fod y person hwnnw'n gallu ymddangos a rhoi ei sylwadau yn y gwrandawiad.
10
1
Rhaid i'r panel apêl ganiatáu i'r person perthnasol a'r disgybl sydd wedi'i wahardd, os nad y person perthnasol yw'r disgybl hwnnw, roi sylwadau ysgrifenedig, ymddangos a rhoi sylwadau llafar, ac i gael ei gynrychioli yn y gwrandawiad neu gael cwmni ffrind.
2
Rhaid i'r panel hefyd ganiatáu —
a
i'r pennaeth roi sylwadau ysgrifenedig, cael ei gynrychioli ac ymddangos a rhoi sylwadau llafar,
b
i'r awdurdod addysg lleol roi sylwadau ysgrifenedig, cael ei gynrychioli ac ymddangos a rhoi sylwadau llafar, ac
c
i'r corff llywodraethu roi sylwadau ysgrifenedig, cael ei gynrychioli ac ymddangos a rhoi sylwadau llafar.
3
Caiff y panel apêl o dro i dro ohirio'r gwrandawiad.
11
Rhaid gwrando ar yr apelau mewn preifatrwydd; ond —
a
os yw'r panel yn cyfarwyddo hynny, caiff un aelod o'r awdurdod addysg lleol fod yn bresennol, fel sylwedydd, mewn unrhyw wrandawiad apêl gan y panel apêl; a
b
caiff un aelod o Gyngor y Tribiwnlysoedd fod yn bresennol, fel sylwedydd, mewn unrhyw gyfarfod panel apêl pan ystyrir apêl.
12
Ceir cyfuno dwy apêl neu fwy ac ymdrin â hwy yn yr un gweithrediadau os yw'r panel apêl yn ystyried bod hynny'n hwyluso'r gwaith oherwydd yr un yw'r materion a godir yn yr apelau neu eu bod yn gysylltiedig.
13
Os bydd anghytundeb rhwng aelodau panel apêl, mae'r apêl o dan ystyriaeth i'w phenderfynu gan fwyafrif syml o'r pleidleisiau a fwrir, ac yn achos nifer cyfartal o bleidleisiau, mae cadeirydd y panel i gael ail bleidlais neu bleidlais fwrw.
14
Rhaid rhoi gwybod am benderfyniad panel apêl a'r seiliau dros ei wneud —
a
gan y panel yn ysgrifenedig i'r person perthnasol, yr awdurdod addysg lleol, y corff llywodraethu a'r pennaeth, a
b
fel a nodwyd erbyn diwedd yr ail ddiwrnod gwaith ar ôl i wrandawiad yr apêl ddod i ben.
15
1
Yn ddarostyngedig i baragraffau 7 i 14, rhaid i bob mater sy'n ymwneud â'r weithdrefn apelio gael eu penderfynu gan yr awdurdod addysg lleol.
2
Rhaid i'r awdurdod addysg lleol wrth osod unrhyw derfynau amser mewn cysylltiad ag apelau, roi sylw i ba mor ddymunol yw sicrhau bod apelau yn cael eu cwblhau yn ddi-oed.
16
Ym mharagraff 1(2) a 14 ystyr “diwrnod gwaith” yw diwrnod heblaw dydd Sadwrn, dydd Sul, dydd Nadolig, dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sydd yn wyl banc o fewn ystyr Deddf Bancio a Thrafodion Ariannol 197116.