YR ATODLENCYFANSODDIAD Y PANELAU APÊL A'R GWEITHDREFNAU AR EU CYFER

Dyletswydd i hysbysebu am aelodau lleyg4

1

Rhaid i unrhyw awdurdod addysg lleol y mae'n ofynnol iddo wneud trefniadau o dan reoliad 7(1), yn ôl y cyfnodau a bennir yn is-baragraff (2), sicrhau cyhoeddi hysbyseb ar gyfer aelodau lleyg o'r panel apêl a ffurfiwyd gan yr awdurdod hwnnw.

2

Rhaid cyhoeddi hysbyseb cyn diwedd y cyfnod o dair blynedd sy'n dechrau pan ddyroddwyd yr hysbyseb ddiwethaf o dan Reoliadau Addysg (Aelodau Lleyg Pwyllgorau Apêl) 199415 ac wedyn bob tair blynedd yn dilyn y dyddiad pan gyhoeddwyd hysbyseb ddiwethaf (neu pan gyhoeddwyd hysbyseb olaf cyfres o hysbysebion) yn unol â'r paragraff hwn.

3

Rhaid i'r hysbyseb y cyfeirir ati yn is-baragraff (1) —

a

ddynodi'r ysgolion a wasanaethir gan y panel apêl y mae'r hysbyseb yn berthnasol iddo wrth eu henw, eu dosbarth, neu eu disgrifiad cyffredinol;

b

gael ei gosod mewn o leiaf un papur newydd lleol sy'n cylchredeg yn yr ardal y lleolir yr ysgolion a enwir yn yr hysbyseb ynddi;

c

caniatáu cyfnod o 21 diwrnod o leiaf o ddyddiad cyhoeddi'r hysbyseb ar gyfer atebion.

4

Cyn penodi unrhyw aelod lleyg rhaid i'r awdurdod addysg lleol ystyried unrhyw bobl sy'n gymwys i gael eu penodi sydd wedi cyflwyno cais i'r awdurdod wrth ymateb i'r hysbyseb ddiweddaraf neu i gyfres o hysbysebion a osodwyd yn unol â'r paragraff hwn yn nodi eu bod yn dymuno cael eu hystyried ar gyfer penodiad o'r fath.