YR ATODLENCYFANSODDIAD Y PANELAU APÊL A'R GWEITHDREFNAU AR EU CYFER

Cyfansoddiad y panelau apêl2

1

Mae panel apêl yn unol â threfniadau a wnaed gan awdurdod addysg lleol o dan reoliad 7(1) i fod yn banel apêl a ffurfiwyd yn unol â'r paragraff hwn.

2

Mae panel apêl i fod yn banel a ffurfiwyd o dri neu bum aelod a benodwyd gan yr awdurdod addysg lleol o blith y canlynol —

a

personau sy'n gymwys i fod yn aelodau lleyg;

b

personau sy'n gweithio ar hyn o bryd ym myd addysg neu reolaeth addysg; ac

c

personau sydd neu a fu yn llywodraethwyr ysgolion a gynhelir, ar yr amod eu bod wedi gwasanaethu fel llywodraethwyr am o leiaf ddeuddeng mis yn olynol yn y chwe blynedd ddiwethaf, ac nad ydynt wedi bod yn athrawon neu'n benaethiaid yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf.

3

Allan o aelodau panel apêl —

a

os ffurfir ef gan dri aelod rhaid penodi un o bob un o'r tri chategori yn is-baragraff (2);

b

os ffurfir ef gan bum aelod —

i

rhaid bod un yn berson sy'n gymwys i fod yn aelod lleyg a'i fod wedi ei benodi felly;

ii

rhaid i ddau fod yn bersonau sy'n dod o fewn is-baragraff (2)(b); a

iii

rhaid i ddau fod yn bersonau sy'n dod o fewn is-baragraff (2)(c).

4

At ddibenion y paragraff hwn a pharagraff 4 mae person yn gymwys i fod yn aelod lleyg os yw'n berson heb brofiad personol o reoli unrhyw ysgol neu ddarparu addysg mewn unrhyw ysgol (gan ddiystyru unrhyw brofiad fel llywodraethwr neu mewn unrhyw swyddogaeth wirfoddol arall).

5

Caiff yr awdurdod addysg lleol benodi digon o bobl o dan y paragraff hwn i alluogi dau banel apêl neu fwy i eistedd ar yr un pryd.

6

Ni chaiff neb fod yn aelod o banel apêl os cafodd ei ddatgymhwyso yn rhinwedd is-baragraff (7).

7

Datgymhwysir y bobl a ganlyn rhag bod yn aelodau panel apêl —

a

unrhyw aelod o awdurdod addysg lleol neu o gorff llywodraethu'r ysgol o dan sylw;

b

pennaeth yr ysgol o dan sylw, neu unrhyw athro neu athrawes yn yr ysgol honno, neu unrhyw berson a ddaliodd y swydd honno yn y pum mlynedd flaenorol;

c

unrhyw berson a gyflogir gan yr awdurdod addysg lleol heblaw fel pennaeth neu athro neu athrawes;

ch

unrhyw berson y mae ganddo, neu y bu ganddo ar unrhyw adeg, gysylltiad â'r canlynol —

i

yr awdurdod addysg lleol neu'r ysgol, neu gysylltiad ag unrhyw berson o fewn paragraff (b) neu (c), neu

ii

y disgybl o dan sylw neu â'r digwyddiad a arweiniodd at ei wahardd,

o fath y gellid yn rhesymol gymryd y byddai'n codi amheuon am ei allu i weithredu'n ddiduedd.

8

Nid yw person a gyflogir gan yr awdurdod addysg lleol fel pennaeth neu athro neu athrawes i'w gymryd, o achos y gyflogaeth honno yn unig, fel un a chanddo gysylltiad o'r fath â'r awdurdod a grybwyllir yn is-baragraff (7)(ch).

9

Os bydd unrhyw aelod, ar unrhyw adeg ar ôl i banel apêl sy'n cynnwys pum aelod ddechrau ystyried apêl, —

a

yn marw, neu

b

yn analluog drwy salwch i barhau fel aelod,

caiff y panel barhau i ystyried a phenderfynu'r apêl ar yr amod nad yw nifer gweddill yr aelodau yn llai na thri a bod gofynion is-baragraff (3)(a) yn cael eu bodloni.

10

Rhaid i banel apêl gael ei gadeirio gan y person a benodwyd yn aelod lleyg.