YR ATODLENCYFANSODDIAD Y PANELAU APÊL A'R GWEITHDREFNAU AR EU CYFER
Terfynau amser a hysbysiadau'n hepgor yr hawl i apelio1
1
Ni cheir gwneud apêl o dan reoliad 6(1) yn erbyn penderfyniad i beidio â derbyn disgybl yn ôl ar ôl y pymthegfed diwrnod ysgol ar ôl y diwrnod y rhoddwyd i'r person perthnasol hysbysiad ysgrifenedig o dan reoliad 6(6)(b).
2
At ddibenion cyfrifo'r cyfnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (1), cymerir bod yr hysbysiad wedi'i roi —
a
pan ddefnyddir post dosbarth cyntaf, ar yr ail ddiwrnod gwaith ar ôl y dyddiad postio, neu
b
pan draddodir yr hysbysiad â llaw, ar ddyddiad ei draddodi,
oni ddangosir i'r gwrthwyneb yn y naill achos neu'r llall.
3
Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), mae unrhyw hysbysiad ysgrifenedig a roddir gan y person perthnasol i'r awdurdod addysg lleol, sy'n datgan nad yw'n bwriadu apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â derbyn y disgybl yn ôl, yn derfynol.
4
Os yw'r person perthnasol yn ddisgybl o oedran ysgol gorfodol ac yntau'n 11 oed neu'n hŷn ar y diwrnod cyn dechrau'r flwyddyn ysgol y cafodd y disgybl hwnnw ei wahardd ac yn un o'i rieni, bydd hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan is-baragraff (3) gan riant yn cael ei drin fel hysbysiad terfynol p'un a yw'r disgybl wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig o'r fath neu beidio.